Scarlets yn y coch

Mi rydych chi’n glwb rygbi mewn trafferthion ariannol – beth yw eich blaenoriaeth? Creu gwefan newydd wrth gwrs! Fe lansiwyd gwefan newydd y Scarlets wythnos diwethaf – mae’r cwmni a’i gynhyrchodd yn noddi’r Scarlets yn barod felly dwi’n amau fod hwn yn ffribi.

Felly dyma adolygiad o’r wefan newydd (ymwadiad: roeddwn i rywbeth i wneud a’r hen wefan, ond ddim y dylunio, nodweddion na’r gwaith technegol).

Mae’r dylunio yn eitha amrwd ond yn amlwg yn ticio llawer o focsus ar gyfer gwefan fasnachol yn 2006 – hafan ‘brysur’, lliwiau cryf a graddiannau lliw ymhobman. Ar y dudalen flaen mae yna adran ‘cyfryngau’ gyda sgrîn llawn statig sy’n tynnu’r sylw, yn ormodol – er hyn mae’r defnydd o fideo yn dda iawn. Mae gweddill y dudalen yn llawn crynodebau o newyddion, canlyniadau a dolenni i adrannau o fewn y dudalen.

Ar y rhan fwyaf o dudalennau cynnwys, mae llun baner ar draws ben y dudalen. Mae’r lluniau yn gwneud defnydd da o’r techneg o ynysu lliw coch crysau rygbi o fewn cefndir du-a-gwyn. Am fod y dudalen yn cynnwys pennawd mawr, bwydlen a wedyn y llun, dyw’r cynnwys ei hunan ddim yn dechrau tan tua hanner ffordd lawr y dudalen ar fy sgrîn i. Mi fyddai defnydd o fwydlen ar un ochr o’r dudalen yn ryddhau fwy o le i’r cynnwys.

Mae’r Scarlets wedi bod yn eitha cefnogol i ddwyieithrwydd fel rhan o farchnata’r clwb, ond mae’r wefan newydd yn siomedig o ran ei chyfieithiad ac am gynnwys heb ei gyfieithu. Mae 4 stori newyddion yn Gymraeg a tua 83 yn Saesneg – roedd yr hen wefan wedi bod fel hyn ers tipyn felly mae’n amlwg fod pwy bynnag oedd yn cyfieithu’r cynnwys wedi gadael. Mae yna wallau amlwg fel “CANOLBWYNT MEDIA”, “golyg holl media fideo”, “GOLYG TIM GÊM NESAF>>” a mae “perthyn i’r angerdd” yn gyfieithiad slafaidd gwael hefyd. Heblaw am y newyddion, ychydig iawn o weddill y safle sydd wedi ei gyfieithu ar hyn o bryd. O be alla’i weld does dim fideos Cymraeg chwaith, yn anffodus.

Mae’n hawdd i drwsio gwallau cyfieithu, ond mae technoleg y wefan yn rhywbeth mwy sylfaenol, felly beth am ansawdd technegol y wefan? Y gwall mwya amlwg i mi yw’r defnydd o Javascript a cwcis i newid iaith ac i ddangos llawer o gynnwys y wefan. Mae hyn yn golygu nad yw’r wefan yn hygyrch i beiriannau chwilio fel Google – gall peiriant ddim ‘dilyn’ dolenni sy’n defnyddio sgript Javascript. Yn bwysicach nid yw’n hygyrch i ddarllenwyr sgrîn, meddalwedd a ddefnyddir gan bobl sy’n ddall neu sydd a nam ar ei golwg.

Felly mae rhan fwyaf o’r wefan wedi ei guddio, yn cynnwys yr holl gynnwys Cymraeg. Dyw hi ddim chwaith yn bosib creu dolen sy’n arwain yn uniongyrchol at dudalen Cymraeg yn y wefan. Mae problem fach arall hefyd – edrychwch ar fanylion un o’r chwaraewyr a newidiwch iaith – mae’r cynnwys yn diflannu!

Yn ôl cod HTML y wefan mae’n defnyddio ‘XHTML 1.0 Transitional’, ond wrth ei redeg drwy ddilysydd y W3C, mae’n dangos 44 o wallau, yn cynnwys pethau sylfaenol fel: dim defnydd o’r nodwedd ‘alt’; defnydd annilys o’r doler mewn ids; ac erchyllbeth yn 2006, defnydd o dagiau ““. Ond o leia mae’r wefan wedi ei adeiladu, ar y cyfan, drwy ddefnyddio CSS.

Cais eitha da felly ond wnaethon nhw ddim llwyddo trosi, y tro yma.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.