Y We Scymraeg

Yn parhau y thema, des i ar draws wefan cwmni Galeri, sy’n “asiantaeth o fri” ar gyfer cantorion, cerddorion. Mae’r dudalen gyntaf yn cynnig dewis iaith gyda’r baneri bondigrybwyll, ond beth am y tu fewn? Dyw’r cyfieithiadau ar y dudalen gartref Cymraeg ddim yn dechrau da – “cleientydd logiwch yma”, “Digwyddiadau ar ddod”. Does neb wedi cyfieithu’r newyddion Cymraeg chwaith, felly mae yna dudalennau deniadol Null.

Mae’n anodd credu fod rhai cwmnïau yn hapus i gael wyneb cyhoeddus mor druenus ond efallai dyliwn i wybod yn well hefyd erbyn hyn.

Postiwyd y cofnod hwn yn Scymraeg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

2 Responses to "Y We Scymraeg"