Peli a ffrwythau

Llynedd, fe wnaeth Sony wneud hysbyseb ar gyfer ei setiau teledu LCD newydd, gyda’r brand Bravia. Er mwyn gwneud hyn fe wnaethon nhw ollwng miloedd o beli rwber lawr un o strydoedd serth San Francisco. Dyma wefan yr hysbyseb le mae’n bosib gweld yr hysbyseb a sut aethon nhw ati i’w greu. (Gwefan wael sydd ddim yn gweithio’n gywir yn Firefox gyda llaw). Mae’r hysbyseb ar YouTube hefyd.

Nawr mae cwmni Tango wedi gwneud fideo sbwff ohono wedi ei leoli nid yn SF ond ar un o strydoedd serth Abertawe (efallai mai tebygrwydd enw saesneg y ddinas sy’n gyfrifol am y dewis). Fel y gwelwch chi, ffrwythau sydd yn y fersiwn yma am mai diod ffrwythau mae Tango yn ei hyrwyddo.

Mae’n debyg nad yw trigolion y stryd yn hapus am y ffilmio a maent yn trefnu deiseb i gwyno am y niwed a achoswyd i’r gymdeithas leol. Neu ydyn nhw? Mae yna wefan ar gyfer pobl yr ardal, wedi ei lunio yn hynod ofalus i edrych fel gwaith amatur – y GIF o’r faner Gymreig, y ffontiau anghyson, y cownter (sy’n sownd ar rhif 32) – mae e sbot on. Mae’r wefan yn rhan o’r ymgyrch feiral wedi ei drefnu o gwmpas yr hysbyseb.

Wrth gwrs, drwy flogio am hyn, dwi wedi dod yn rhan o’r ymgyrch, ond dyna ni. Peidiwch yfed diodydd Tango, mae nhw’n afiach.

Postiwyd y cofnod hwn yn Teledu, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Peli a ffrwythau"