Nawr ac yn man mae’n werth gwneud chwiliad blog am dermau fel ‘cymru’, ‘cymraeg’, ‘caerdydd’ neu ‘eich lleoliad chi’ er mwyn dod o hyd i flogiau Cymraeg newydd. Fel arfer pan dwi’n gwneud hyn dwi’n darganfod fod Nic, Rhys neu Geraint wedi bod yno rhai misoedd o’ mlaen i.
Ond ddim tro yma, y diawled. Des i ar draws Yr Ynfytyn, rhyw fath o bapur newydd ffug ynghyd a lluniau hefyd. Newydd ddechrau mae e a does dim llawer o wybodaeth amdano yno. Mae’n cynnwys erthyglau dychanol, sych, sydd yn amlwg wedi eu hysbrydoli gan eitemau newyddion go iawn. Dwi’n meddwl falle nad blog yw’r ffurf gorau ar gyfer rhywbeth fel hwn ond mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’n datblygu.
Gan Rhys 8 Chwefror 2006 - 10:57 am
Roeddwn wedi dod ar ei draws yn barod (so there, ond ddim wedi blogio amdano gan mai ond un post oedd arno a wnes iddim ei ddarllen yn iawn, felly dwi’n falch bod ti diw flogio.
Fel tase angen prawf arnat o pa mor drist ydw i, dwi wedi gosod ‘Watchlist’ ar Technorati ar gyfer y canlynol: ‘Welsh’, ‘Cymraeg’ ‘Welsh speakers’ ac wedyn gosod ffrwd ar gyfer pob watchlist ar fy rhestr bloglines.
Mae hyn wedi arwain at ddarganfod nifer o flogiau Cymraeg, yn arbennig gan ddysgwyr nad oedd yn ymwybodaol o maes-e/rhithfro/blogiadur. Hefyd dwi wedi darganfod rhai blogiau sy’n slagio ffwrdd siardwyr Cymraeg neu’r iaith yn gyffredinol.
Ond mae hefyd yn dangos llwyth o rwtch fel pyst am Irvine Welsh ac yn rhyfeddol degau o rai gan pobl sy’n bridio Welsh Corgi. Dwi’n meddwl nai ddileu’r ffrwd ar gyfer ‘Welsh’.
Galli di hefyd osod watchlist at gyfer blogiau, felly galli di weld pa flogiau sy’n rhoi dolen at flog arbennigl (eto os wyt ti mor drist)
Gan dafydd 8 Chwefror 2006 - 11:08 am
Waw, sdim lle i guddio rhagddot nag oes. Dwi wedi chwarae ychydig gyda teclynnau Technorati ond fydd rhaid ymchwilio’n ‘mhellach..
Gan Chris 12 Chwefror 2006 - 6:30 pm
Tipyn fel ‘The Onion’ yn Gymraeg, te?