daflog

Costau cyfieithu

Mae yna rhywbeth yn drewi ynglyn a’r stori yma ynglŷn a chyfieithu gêm gyfrifiadurol. Dyw cyfieithu 30 mil o eiriau ddim yn mynd i gostio £16,500!

Mae’n debygol mai geiriau unigol fyddai llawer o’r cynnwys yn hytrach na brawddegau llawn a felly fe fyddai’n bosib cyfieithu y trwch o’r geiriau drwy eiriadur neu cof-gyfieithu. Hyd yn oed o ystyried y gwaith o wirio’r testun a’i roi yn y fformat cywir ar gyfer y gêm dyw’r gost ddim mwy na rhyw 2 neu 3 mil.

Mae rhywun yn trio cymryd mantais fan hyn – naill ai pwy bynnag sy wedi rhoi yr amcanbris, neu y cwmni gemau eisiau’r gwaith am ddim.

  • Cyhoeddwyd: Tachwedd 24, 2008
  • Categori: Newyddion
  • Sylwadau: 1

TAW piau hi

Wel mae’r cwsmer cynta wedi bod ar y ffôn yn dweud “O na, mae’r cyfradd VAT yn newid, beth am ein siop ar lein?”, er does dim byd wedi ei gyhoeddi eto.

Dwi ddim yn gwybod os yw’r canghellor yn deall cweit faint o waith fydd angen i bobl newid eu systemau. Dyw’r gyfradd ddim wedi newid ers 1991, felly ychydig iawn o raglennwyr sydd wedi ystyried nad yw’r gyfradd dreth yn ‘gysonyn’ ond yn ‘newidyn’.

Gawn ni weld beth fydd y cyhoeddiad swyddogol ond dwi’n gallu gweld dipyn o ruthro prynhawn ‘ma i newid gwefannau i ddefnyddio’r cyfradd newydd. Fel mae’n digwydd mi fydd yn reit syml gwneud hyn ar gyfer y rhan fwyaf o wefannau gan fod y gyfradd yn cael ei storio mewn un man yn y cod. Mae nifer o’r gwefannau rydyn ni wedi adeiladu yn gorfod delio gyda trethi lleol yn America a mae cyfrifo hynny llawer mwy cymleth na unrhyw beth ym Mhrydain.

Dwi newydd wneud arolwg cyflym o’r gwefannau yn ein gofal ni a mi fydd angen newid tri ffigwr:

  • 17.5 -> 15
  • 1.175 -> 1.15
  • 7/47 -> 3/23 (dyma esboniad o’r ffracsiynau yma)
  • Cyhoeddwyd: Hydref 17, 2008
  • Categori: Newyddion, Teledu
  • Sylwadau: Comments Off

S4C mewn manylder uwch

Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.

Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 – heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.

Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn HD?

  • Cyhoeddwyd: Awst 29, 2008
  • Categori: Newyddion
  • Sylwadau: 1

Geoffrey Perkins

O’n i’n drist iawn i glywed fod Geoffrey Perkins wedi marw mewn damwain car yn Llundain. Roedd ei waith ar y gyfres radio Hitchiker’s Guide yn esiampl perffaith o sut i gynhyrchu drama fodern ar y radio, ac yn torri tir newydd o ran cyfuno cerddoriaeth ac effeithiau sain gyda’r deialog. Bu farw Douglas Adams yn llawer rhy ifanc a mi fydd marwolaeth cynnar Geoffrey Perkins yn golled mawr i fyd comedi hefyd.

  • Cyhoeddwyd: Mehefin 4, 2008
  • Categori: Newyddion
  • Sylwadau: Comments Off

Rhyw ddydd…

Llongyfarchiadau i’r awdures Jan Morris ar ‘ail-briodi’ ei phartner mewn partneriaeth sifil yn ddiweddar. Wrth ddarllen y stori ar wefan newyddion BBC Cymru ges i syndod o ddarllen ei bod hi wedi cael “llawdriniaeth i newid ei rywioldeb“.

Pa fath o lawdriniaeth fyddai hynny ‘te? Ydi’n deg i ddweud nad yw newyddiadurwyr y BBC yn deall y gwahaniaeth rhwng rhyw a rhywioldeb?

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.