Noson Gwylwyr S4C

Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi’n credu fod peryg nawr o ddrysu dau fater wahanol, sef cyllido’r sianel a’i chynnwys.

Fe drefnwyd rhaglen arbennig ‘Noson Gwylwyr’ (sydd ymlaen heno) gan S4C ymhell cyn y cynlluniau presennol i gyllido S4C drwy’r drwydded teledu.

Mae ffynhonnell a maint cyllid y sianel yn fater gwleidyddol a mae angen trafodaeth ar wahan ar gyfer hynny, mewn cyd-destun ehangach a phenderfyniad ar bwy sy’n rheoli materion darlledu yng Nghymru. Dwi wedi ebostio S4C i ofyn iddyn nhw beidio trafod y cyllid heno neu o leia gyfyngu ar y drafodaeth hynny.

Beth sy’n bwysig i’r gwylwyr yw beth sydd yn ymddangos ar y sgrîn ac os oes rhaglenni atyniadol sy’n ddifyr a gafaelgar. Pwy bynnag sy’n ariannu S4C mi fydd toriadau yn digwydd beth bynnag a dwi’n sicr fod posib arbed arian mewn nifer o feysydd (mae nifer o fewn y diwydiant wedi sôn am y gwastraff arian sydd wedi bod dros y blynyddoedd).

Mae angen i’r sianel ail-edrych ar sut mae nhw’n comisiynu rhaglenni. Dwi’n credu fod comisiynwyr y sianel a rhai cynhyrchwyr wedi mynd yn ddiog a hunan-foddhaol. Mae hyn yn ddatblygiad naturiol mewn unrhyw gorff sydd yn fonopoli. Does gan S4C ddim cystadleuaeth na chymhelliad allanol i wasanaethu’r gynulleidfa yn well – efallai fod angen edrych am ffyrdd y gall syniadau am raglenni Cymraeg gael eu cynhyrchu tu allan i S4C.

Does dim rheswm o gwbl pam na allai’r Cynulliad ei hun ddechrau sianel deledu ei hunain (heblaw arian a’r cymhelliad gwleidyddol wrth gwrs). Mi fyddai’n ddrud darlledu sianel yn y ffordd draddodiadol (ar Freeview/Sky) ond mae digon o ffyrdd eraill i ddosbarthu cynnwys ar lein fyddai’n cyrraedd cynulleidfa byd-eang gyda mwy o wylwyr potensial na S4C. Does dim rhaid trio creu sianel llinol o 7am-12am, ond yn hytrach rhoi cyfle ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, perfformwyr a phobl greadigol eraill i arbrofi.

Un o fy hoff gyfresi yn y 90au oedd sioe ‘Adam & Joe’ a gafodd ei wneud ar gyllid bach iawn a’i ddarlledu mewn slot ‘arbrofol’ ar Channel 4. Roedd y gyfres yn dibynnu ar greadigrwydd dau unigolyn, syniadau gwych, golygu slic a dim byd mwy na hynny. Oes yna bobl yr un mor greadigol yng Nghymru? Dwi ddim yn gwybod – mae yna rai enghreifftiau prin iawn ar YouTube ond os oedd hi’n bosib rhoi cyngor, arweiniad ac ychydig bach o gymorth technegol mae’n bosib fydden ni’n gwybod yr ateb.

Beth bynnag, fe gawn ni weld heno os ydi S4C wir wedi ei ‘deall hi’ neu a fyddan nhw’n parhau yn yr un rhigol.

Postiwyd y cofnod hwn yn Newyddion, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.

3 Responses to "Noson Gwylwyr S4C"