daflog

  • Cyhoeddwyd: Chwefror 25, 2006
  • Categori: MP3, Newyddion
  • Sylwadau: 2

Ail-lansiad Plaid Cymru

Wel mae digon o sôn wedi bod am ail-frandio Plaid Cymru ar faes-e a llefydd arall. Beth sy’n drist yw gweld y smonach mae nhw wedi gwneud ohoni. Dyw’r logo newydd ddim mor ddrwg a hynny, os oedd Plaid Cymru yn gwmni masnachol. Ydi e’n addas i blaid wleidyddol? Dwi’n amau.

Mi roedd gwefan y Blaid yn destun jôc o’r blaen a does dim byd wedi newid er y cot newydd o baent- dy’n nhw ddim hyd yn oed yn gallu penderfynu pa ffont a lliw i ddefnyddio ar gyfer yr enw ‘Plaid’ yn eu logo. Mae cymru x ymhell ar y blaen o ran cyflwyniad a delwedd.

Ta beth, y ‘logo sain’ wnaeth fy nifyrru i fwya. Fe ges i’r syniad neithiwr o ail-gymysgu’r sampl sain ac ychydig oriau yn ddiweddarach des i lan a ‘Paid Cymru’. Mi fydd mics hirach o hwn yn cael ei wneud yn y man.

Paid Cymru (Mics Dai a Rea) [2.07MB]

  • Cyhoeddwyd: Chwefror 18, 2006
  • Categori: Blogiau, Hwyl
  • Sylwadau: 1

Blog Chewy

Mae’r wookie enwog wedi dechrau blogio. Hollol wallgo, ond doniol rhywsut.

Pedwar Peth

Dwi ddim yn wir hoffi llenwi’r rhestrau ‘ma, ond gan fod Nic wedi fy pasio hwn mlaen i fi, wnai rhoi gynnig arni.

Pedwar swydd dw i wedi’u cael

  1. Ffilmio gwaith ffordd yr M4 yn Llansawel (wel, profiad gwaith oedd e)
  2. Rhedeg caffi seiber yn y Steddfod
  3. Rhaglennwr gwefannau
  4. Gweinyddwr TG

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd

  1. Bladerunner
  2. The Italian Job (y gwreiddiol)
  3. Toy Story
  4. Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw

  1. Penarth
  2. Caerdydd
  3. Bangor
  4. Aberystwyth

Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru

Dwi am roi rhaglenni sy’ wedi bod mlaen yn ddiweddar.

  1. Stargate Atlantis/SG1
  2. Green Wing
  3. Time Team
  4. House

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau

  1. Llydaw
  2. Dyfnaint
  3. Yr Alban (Caeredin, St Andrews)
  4. Ty Ddewi

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

  1. Bîns ar dost
  2. Spaghetti Bolognese
  3. Hufen Ia Joe’s (ydi hwnna’n fwyd?)
  4. Cinio dydd Sul

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd

  1. maes-e (ofiysli)
  2. Bloglines fel porth i llwyth o wefannnau arall
  3. Guardian
  4. New Scientist

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

  1. Yn y gwely
  2. Yn y bath
  3. Yn y gadair esmwyth
  4. Ar y lleuad

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio

Fyddwn ni wedi tagio pawb yn y byd blogio Cymraeg o fewn wythnos..

  1. Newydd Sbon (der mla’n Huw)
  2. Byd Hyfryd (person dirgel tu hwnt)
  3. Dotio (Mair)
  4. Crochenwaith
  • Cyhoeddwyd: Chwefror 7, 2006
  • Categori: Rhithfro
  • Sylwadau: 3

Yr Ynfytyn

Nawr ac yn man mae’n werth gwneud chwiliad blog am dermau fel ‘cymru’, ‘cymraeg’, ‘caerdydd’ neu ‘eich lleoliad chi’ er mwyn dod o hyd i flogiau Cymraeg newydd. Fel arfer pan dwi’n gwneud hyn dwi’n darganfod fod Nic, Rhys neu Geraint wedi bod yno rhai misoedd o’ mlaen i.

Ond ddim tro yma, y diawled. Des i ar draws Yr Ynfytyn, rhyw fath o bapur newydd ffug ynghyd a lluniau hefyd. Newydd ddechrau mae e a does dim llawer o wybodaeth amdano yno. Mae’n cynnwys erthyglau dychanol, sych, sydd yn amlwg wedi eu hysbrydoli gan eitemau newyddion go iawn. Dwi’n meddwl falle nad blog yw’r ffurf gorau ar gyfer rhywbeth fel hwn ond mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae’n datblygu.

  • Cyhoeddwyd: Chwefror 2, 2006
  • Categori: Gwaith, Y We
  • Sylwadau: 1

Y Syniad Mawr Nesaf

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.

Mae hyn wedi golygu fod nifer o bobl wedi neidio ar yr un cwch a wedi meddwl am gychwyn gwefannau fel hyn ei hunain. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosib defnyddio syniad unigryw a’i efelychu mewn ffordd sydd ‘hyd yn oed yn fwy unigryw’. Dros y misoedd diwethaf yn y gwaith dwi wedi gweld pob math o syniadau gwirion yn dod mewn. Roedd rhai unigolion eisiau dechrau gwefan ‘yr un peth a Hotmail/Google/Flickr’, a daeth hanner dwsin o syniadau am wefannau ‘rhwydweithio cymdeithasol’; cynnig ffordd o gyfarfod a phobl o’r un diddordeb; ffeindio cariad; fforwm drafod ar rhyw bwnc arbennig.

Dau beth amlwg sy’n cysylltu’r syniadau yma i gyd – mae nhw eisiau dylunio ac adeiladu y wefan am y nesa peth i ddim a dy’n nhw ddim yn siwr iawn sut i wneud arian o’r wefan (neu fod ei cynllun busnes yn ‘gyfrinachol’ – fel arfer mae hyn yn golygu fyddan nhw’n gwneud pethau lan wrth iddyn nhw fynd ymlaen).

Y ffenomenon ddiweddaraf yw ‘gwerthu picsels’. Mae hwn yn con trick arbennig o dda, a ddechreuwyd gan Alex Tew. Prif fwriad y tric yma yw nid gwerthu hysbysebion, ond creu stori ddeniadol i’r cyfryngau – “dyma fi, fyfyriwr tlawd, yn gwneud ffortiwn ar y we heb godi bys”.

I fod yn deg, mae hwn yn ffordd hawdd o wneud arian sydd a hanes eitha hir, o gardota i fysgio ac i’r dulliau mwy dyfeisgar ar y we heddiw. Os gerddwch chi lawr Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gofyn i bawb sy’n pasio am 10 ceiniog i wneud ‘galwad ffôn bwysig’ mi fydd ganddoch chi nifer o bunnoedd erbyn i chi gyrraedd y castell.

Pwy fydd yn ymweld a gwefan y miliwn doler ar ôl i’r stori ddiflannu o’r cyfryngau? Neb – a felly dros y 5 mlynedd hir nesaf, ni fydd llawer o neb yn gweld yr hysbysebion. Mae rhan fwyaf o’r hysbysebwyr ar y safle yn ddigon cefnog i sbario ychydig ddoleri er mwyn dod yn ‘rhan o’r stori’, yn enwedig felly y cyfryngau torfol neu gwefannau gamblo. Wrth gwrs mae yna farchnad yn barod ar gyfer ‘prynu picsels’ – trefn mwy synhwyrol lle gall cwmnïau roi hysbysebion testun neu graffeg ar wefannau arall – gwefannau sydd o ddiddordeb i bobl ac yn cynyddu ei cynulleidfa yn raddol dros y blynyddoedd.

Mae’r uchod i gyd yn ffordd hir o ddod at ‘yr ongl Gymreig’ i’r ffasiwn rhyfedd yma, sef Million Pixel Wales a mi fydd Miliwn Picsel Cymru hefyd i gael cyn hir. Mae nifer o bobl eraill wedi trio efelychu’r syniad gwreiddiol felly fydd e’n ddiddorol gweld sut fydd sgam syniad unigryw yma yn datblygu.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site