Trist clywed fod James Doohan, Scotty o Star Trek wedi ei ‘belydru fyny’ am y tro olaf ar ôl marw, yn 85 mlwydd oed.
Wo-ow Mr Lleuad
Spillers
Wel mae wedi cymryd 6 mlynedd ond mae siop recordiau Spillers nawr ar y we – sdim rhaid i siop recordiau hynaf y byd ruthro dim byd nag oes. Mae’n ddefnyddiol i chwilio am beth sydd ar gael yna ond mae bob amser yn fwy o hwyl i fynd lawr a thwrio drwy’r silffoedd.
Hanner Dwsin
Mae yna ychydig o bobl ar y maes wedi bod yn hel atgofion am y cartŵn Hanner Dwsin o’r 80au, felly es i ati i greu mp3 o’r sengl gafodd ei ryddhau gyda caneuon o’r gyfres. Cafodd y sengl 7″ ei ryddhau ar Sain (SAIN 112S) yn 1985 – Ysbryd Y Nos yn cael ei ganu gan Dewi Pws a O Dan Y Dŵr yn gael ei ganu gan Gillian Elisa. A dyma glawr y sengl:

Mighty Boosh #2
Wnes i sôn o’r blaen fod y BBC yn gwe-ddarlledu pennod gyntaf newydd y Mighty Boosh. Yn anffodus mae nhw’n defnyddio’r RealPlayer ddieflig. Dwi ddim wedi gosod y meddalwedd yma ar fy nghyfrifiadur ond yn hytrach yn defnyddio RealAlternative. Ond ar hyn o bryd dyw hwn ddim yn chwarae pethau’n iawn i mi (dim sŵn a ddim yn chwarae’n llyfn). Felly fydd rhaid i fi aros i weld y rhaglen ar y teledu (dyna sydd yn well ‘da fi beth bynnag).
Ar nodyn arall, mae ecstras (a hwn) ar gyfer DVD y Mighty Boosh wedi ei graddio gan y BBFC felly fydd hi ddim yn hir nawr..