Cymdeithas Meddalwedd

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod fe fydd lansiad Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, “i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r deunydd sydd ar gael yn yr iaith”. Mae hyn yn gam bwysig ymlaen nid yn unig i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg ond sicrhau safonau agored. Gobeithio hefyd fydd yna bwyslais ar fanteision datblygu meddalwedd agored gan fod hynny bob amser yn gwneud y gwaith o gyfieithu yn haws.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg | 3 Sylw

Iaith WordPress

Dwi wedi bod yn edrych ar y porthiannau mae WordPress yn gynnig sydd ar gael yn fformat RSS, RSS2 neu Atom a wedi sylwi fod y tag iaith wedi ei osod ar ‘en’ yn y ffeil XML. Chwiliais i drwy’r dewisiadau heb weld unrhyw ffordd o newid hyn. Felly wnes i ddewis gwneud hyn drwy orchymyn SQL:

update wp_options set option_value='cy' where option_name='rss_language';

Dwi ddim yn gwybod am ddim byd sy’n gwneud defnydd o’r gosodiad iaith ar hyn o bryd ond mae’n werth newid i fod yn gywir. Mae technorati yn grwpio yn ôl allweddair.. fase’n ddefnyddiol grwpio yn ôl prif iaith y blog hefyd. Mae yna rhyw drafodaeth wedi bod am wella hyn o fewn WordPress er mwyn ei wneud yn haws marcio cofnod gyda’r iaith gywir.

Wrth gwrs er mwyn dilyn y canllawiau hygyrchedd llymaf, os fyddai’n defnyddio unrhyw iaith arall ar y blog yma mae rhaid dangos y newid iaith yn glir efallai drwy <span lang="en"></span>. Mae hyn yn gadael i sgrin-ddarllenwyr (meddalwedd sy’n trosi testun i lais ar gyfer y dall, er enghraifft) ddefnyddio yr ynganiad cywir ar gyfer y testun, am fod rheolau gwahanol i bob iaith wrth gwrs.

Dyna’r math o broblem dwi’n ddarganfod yn y gwaith wrth greu gwefannau sydd fod i ddilyn canllawiau manwl y llywodraeth ynglyn a hygyrchedd, ond gan mai blog bach personol dibwys yw hwn dwi am anwybyddu’r rheolau 🙂

Postiwyd yn Blogiau, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Iaith WordPress

Clwb S4C

Pan o’n i’n 9 oed fe wnes i ‘sgrifennu llythyr at S4C yn awgrymu y dylsen nhw ddechrau rhyw fath o glwb ar gyfer plant ifanc; gyda rhif a cherdyn/bathodyn aelodaeth, gostyngiad ar nwyddau’r sianel, posteri neu gylchgrawn rheolaidd am ein hoff raglenni. Yn fyr, rhywbeth fase’n denu fwy o blant i wylio’r sianel mewn slot penodol ac adnabyddus. Ches i ddim ateb gan y diawled.

Flwyddyn yn ddiweddarach wnaeth y sianel lansio ‘Clwb S4C’. Dyna syrpreis! Er mwyn hyrwyddo’r clwb fe wnaethon nhw ryddhau sengl ar llipa-ddisc tryloyw coch. Y gyflwynwraig Siân Thomas oedd yn canu ynghyd a phlant Ysgol Coed y Gôf, Caerdydd.

Sengl Clwb S4C

      Cân y Clwb
– [4.32MB]
      O Lyn y Felin i Blaned Sbot
– [4.96MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Clwb S4C

Scotty

Trist clywed fod James Doohan, Scotty o Star Trek wedi ei ‘belydru fyny’ am y tro olaf ar ôl marw, yn 85 mlwydd oed.

Postiwyd yn Ffilm, Ffuglen wyddonol, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Scotty

Wo-ow Mr Lleuad

Ar 20fed Orffennaf 1969 fe wnaeth dyn sefyll ar y lleuad am y tro cyntaf. Mae Google wedi addasu ei technoleg mapiau ar gyfer lluniau o wyneb y lleuad (mae yna syrpreis bach wedi guddio ynddo).

Postiwyd yn Y Gofod, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Wo-ow Mr Lleuad