Paranoia’r ffônau symudol

O’n i’n darllen stori bore ‘ma ynglyn a gwrthynebiad i osod mast ffôn. Fel arfer yn y byd modern mae pawb eisiau hwylustod technoleg newydd heb orfod mynd i’r drafferth o’i ddeall – felly mae’n amhosib i’r bobl yma gymeryd penderfyniadau call ynglyn a’r dechnoleg neu’r wyddoniaeth tu ôl iddo. Y dewis haws wrth gwrs yw dibynnu ar baranoia, storiau chwedlonol ac ansicrwydd.

Mae Elin Jones AC yn dweud

“Ry’n ni gyd yn gwybod ein bod ni’n gorfod troi ein ffonau symudol i ffwrdd wrth fynd i mewn i ysbytai achos gallen nhw effeithio ar offer meddygol”

Bolycs. Does dim tystiolaeth o hynny o gwbl a mae’r BMA a’r NHS yn gwybod hynny. Os oedd hynny’n wir fase rhaid banio’r pagers mae pob doctor ar alwad yn ddefnyddio. Un rheswm (call) dros droi ffonau i ffwrdd mewn ysbyty yw i roi ychydig o heddwch i’r cleifion a’r staff. Rheswm arall yw gorfodi pobl i ddefnyddio y ffonau cyhoeddus sydd wedi ei gosod mewn mannau arbennig lle nad yw’n amharu ar waith yr ysbyty – mae hyn hefyd yn creu incwm bach defnyddiol wrth i bobl ddefnyddio’r ffonau talu.

Mae Elin Jones yn parhau:

“Mae pobol yn dal i amau pa mor ddiogel yw’r mastiau. Rwy’n credu y dylen ni fod yn ofalus a pheidio â’u rhoi mewn man lle gall yr effaith fod yn wael.”

Yn ôl y rhesymeg gwirion yma nid oes unrhyw le yn saff i roi mast ffôn. Mae yna ddiffyg dealltwriaeth weddol bwysig weddol hanfodol yma – fe allwch chi roi mast ar ben mynydd ond mae hynny yn golygu fod rhaid iddo ddefnyddio pŵer uchel er mwyn cael cysylltiad da gyda’r ffonau, a mae’r ffonau yn gorfod gweithio’n galetach er mwyn danfon digon o signal yn ôl i’r mast.

Dyna pam fod y cwmniau ffonau symudol yn codi mastiau lleol mewn mannau lle mae’r defnydd mwya o ffonau – mae yn golygu fod hi’n bosib cadw pŵer y signal yn isel yn y mast ac yn y ffôn ei hun. Llai o’r ‘ymbelydredd’ cas yna felly (ond cofiwch peidio sefyll yn yr haul, mi gewch chi ddos o ymbelydredd llawer gwaeth o hynny).

Mae ffôn symudol yn cynnwys ‘mast’ bach hefyd er mwyn trosglwyddo gwybodaeth nôl i’r mast canolog. Ac wrth ddal hynny at eich clust, mae’r signal filoedd o weithiau yn fwy dwys na mae hi o’r mast.

Mae’r paranoia yma yn symtomatig o ddiffyg dealltwriaeth o wyddoniaeth nid yn unig gan y cyhoedd ond gan ein cynrychiolwyr etholiadaol hefyd. Mae sylwadau Elin Jones yn parhau yn y dull peryglus o wneud penderfyniadau ar sail ofn yn hytrach nag ar ffeithiau.

Dwi’n disgwyl ymlaen i weld pawb sy’n gwrthod mastiau ffôn am ddim rheswm heblaw “falle eu bod nhw’n beryglus” yn taflu allan eu ffonau symudol, a’u setiau teledu a radio a’u lloeren a meicrodon a’i gliniadur di-wifr. Mi fydd y byd llawer llai peryglus hebddynt yn wir…

Postiwyd y cofnod hwn yn Newyddion, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Paranoia’r ffônau symudol"