Stafell Smygu

Dwi ddim yn smygu, felly o’n i ddim yn gwybod fod y fath beth a stafell smygu yn bodoli (dwi’n fwy cyfarwydd a ysmygwyr ar risiau dihangfa dân). Os oes yna rai o hyd, mi fyddan nhw wedi ei gwahardd cyn hir mae’n siwr.

Mae’r comedi gwych ‘The Smoking Room’ ar ei ail gyfres nawr ar BBC TRI a dyma gwis bach gwirion i weld pa gymeriad o’r rhaglen ydych chi’n debyca’ iddo. Robin, y sinig, oeddwn i.

Postiwyd yn Hwyl, Teledu, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Stafell Smygu

Rhyfeddodau naturiol

Rhaglen ddifyr iawn ar bump neithiwr gyda canlyniadau pôl wedi’i gynnal yn y Radio Times gyda’r darllenwyr yn enwebu y rhyfeddod naturiol gorau neu’r harddaf ym Mhrydain. Allan o’r deg uchaf roedd dau yng Nghymru (fe ddyle fod mwy, falle nad yw Pistyll Rhaeadr mor adnabyddus a hynny). Cwm Idwal yn 7fed, rhywle dwi’n nabod eitha da ar ôl gwneud fy mhrosiect Daearyddiaeth yno. A fe ddaeth Dan-yr-Ogof yn gyntaf – rhaid mynd lan yna eto, dwi heb fod yna ers mod i’n 6 neu 7 dwi’n siwr.

Postiwyd yn Newyddion, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Rhyfeddodau naturiol

Diwrnod y Gweinyddwyr System

Wnaeth cyd-weithiwr ddod fyny ata’i bore ‘ma a dweud “Happy Sysadmin Day”. “Is it?” medde fi. Wel mae hi wedi dod rownd eto yn eitha cyflym. Dwi’n cael fy ngwerthfawrogi bob dydd, wrth gwrs…

Postiwyd yn Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Diwrnod y Gweinyddwyr System

Ffrancopop

Dwi wedi bod yn sycyr erioed am ganeuon pop ffrengig neu rwsieg. O’n i’n arfer tiwnio mewn i sianeli radio aneglur ar shortwave i wrando ar lleisiau a synau rhyfedd ac estron. Ar ôl darganfod sianel Ffrengig, un o’r caneuon cynta glywes i oedd ‘Voyage, Voyage’ gan Desireless. Aeth hynny ymlaen i ddeg uchaf siartiau Prydain yn 1988 – mae’r saeson yn ail-ddarganfod pop ffrengig bob hyn a hyn; dyna flwyddyn ‘Joe le Taxi’ hefyd.

Tra’n chwilio am wybodaeth am ‘Voyage, Voyage’ des i ar draws cover o’r gân wedi ei berfformio (yn Ffrangeg) gan gantores o Rwsia – Zamsha. Mae’r fersiwn yma yn codi’r bpm ac yn fwy techno-aidd, ddim mor rhamantaidd a’r gwreiddiol. Dwi’n cyflwyno’r ddau mp3 yma i chi:

      Desireless - Voyage
(fersiwn 1988) [5.17 MB]
      Zamsha - Voyage
[6.18 MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ffrancopop

Enwau parth acennog

Ar hyn o bryd mae Nominet, y corff sy’n rheoli parth .uk, yn ymgynghori ar system IDN (Internationalised Domain Names) sef ffordd o ddefnyddio, ymysg pethau eraill, acenion o fewn enw parth. Er enghraifft mi fyddai’n bosib defnyddio dŵrcymru.co.uk – dim ond dwrcymru.co.uk sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn amlwg mae hyn yn bwysig i’r Gymraeg o fewn .uk – er nad ydw i am ddefnyddio parthau .uk yn bersonol – mae nifer o gwmniau Gymreig yn gwneud hynny. Mae nifer o’r atebion i’r ymgynghoriad hyd yn hyn wedi bod yn hynod o anwybodus, fel arfer gan saeson sydd ‘ddim yn gweld y pwynt’ neu yn dweud y byddai hyn yn creu dryswch (fel arwyddion Cymraeg ar ein ffyrdd?). Felly mae angen ymatebion gan bobl fyddai’n gwneud gwir ddefnydd o IDN.

Mae fwy o wybodaeth ar wefan Nominet. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y papur ymgynghorol gynta a bod eich ymateb yn gwrtais gan y bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.

Mae gennych chi tan y 6ed o Fedi 2005 i ymateb.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Enwau parth acennog