Enwau parth acennog

Ar hyn o bryd mae Nominet, y corff sy’n rheoli parth .uk, yn ymgynghori ar system IDN (Internationalised Domain Names) sef ffordd o ddefnyddio, ymysg pethau eraill, acenion o fewn enw parth. Er enghraifft mi fyddai’n bosib defnyddio dŵrcymru.co.uk – dim ond dwrcymru.co.uk sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn amlwg mae hyn yn bwysig i’r Gymraeg o fewn .uk – er nad ydw i am ddefnyddio parthau .uk yn bersonol – mae nifer o gwmniau Gymreig yn gwneud hynny. Mae nifer o’r atebion i’r ymgynghoriad hyd yn hyn wedi bod yn hynod o anwybodus, fel arfer gan saeson sydd ‘ddim yn gweld y pwynt’ neu yn dweud y byddai hyn yn creu dryswch (fel arwyddion Cymraeg ar ein ffyrdd?). Felly mae angen ymatebion gan bobl fyddai’n gwneud gwir ddefnydd o IDN.

Mae fwy o wybodaeth ar wefan Nominet. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y papur ymgynghorol gynta a bod eich ymateb yn gwrtais gan y bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.

Mae gennych chi tan y 6ed o Fedi 2005 i ymateb.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Technoleg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.