Cyfieithu’r Corrach

Bwrdd gwaith poblogaidd ar gyfer system weithredu Linux yw Gnome a mae fersiwn 2.12 newydd ei ryddhau. Mae Gnome yn cael ei ryddhau mewn nifer fawr o ieithoedd a diolch i waith caled tîm gnome-cy mae 92.69% o’r llinynnau wedi eu cyfieithu i Gymraeg.

Mae’r rhaglenni pwysicaf o fewn y system wedi eu cyfieithu sy’n gadael tua 5 rhaglen fach ar ôl i’w taclo yn y dyfodol.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Cyfieithu’r Corrach"