Arglwydd y Dur

Rhai blynyddoedd yn ôl fe wnaeth ffrind i mi gynllunio gwefan a creu CD a fideo ar gyfer brenin y carioci Ivor Beynon – sy’n perfformio yng nghlybiau De Cymru dan yr enw ‘Lord of Steel’. (Wnaethon nhw gwmpo mas yn ddiweddar a sdim rhyfedd – am fod Ivor yn dipyn o ‘gymeriad’).

Antur ddiweddara’ Ivor oedd ceisio mynd ar sioe deledu yr X Factor, lle roedd yn llwyddiant ysgubol. Gymaint o lwyddiant yn wir fel mai dim ond 10 eiliad ohono ddangoswyd ohono yn y brif raglen. Ond fe ymddangosodd mewn eitem hirach ar y rhaglen Xtra Factor lle mae’n esbonio ei athroniaeth i ni, gan ddechrau gyda tarddiad enw ei alter ego:

Well, Ivor Beynon is a Welsh.. it’s Welsh. And Ivor, in English, is Lord and Beynon is Steel. So Ivor Beynon in English is the Lord of Steel.

Wel dyna esboniad hollol glir ynde. Dyma glip o’r dyn ei hun ar y rhaglen. (7.5MB, WMV)

Postiwyd yn Teledu | 3 Sylw

Cyfieithu’r Corrach

Bwrdd gwaith poblogaidd ar gyfer system weithredu Linux yw Gnome a mae fersiwn 2.12 newydd ei ryddhau. Mae Gnome yn cael ei ryddhau mewn nifer fawr o ieithoedd a diolch i waith caled tîm gnome-cy mae 92.69% o’r llinynnau wedi eu cyfieithu i Gymraeg.

Mae’r rhaglenni pwysicaf o fewn y system wedi eu cyfieithu sy’n gadael tua 5 rhaglen fach ar ôl i’w taclo yn y dyfodol.

Postiwyd yn Cymraeg, Technoleg | 1 Sylw

Cardiau Adnabod

Mae’r ymgyrch yn erbyn cardiau adnabod – NO2ID – wedi creu cân ac animeiddiad sydd yn ffordd eitha difyr o gael eu neges drosodd.

Postiwyd yn Gwyddoniaeth, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Cardiau Adnabod

Rhy cŵl i’r Gymraeg

Roedd stori heddiw ynglyn a gwefan newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Enw’r wefan ydi cwlfly.com – CWL ydi cod rhyngwladol y maes awyr a nid ymgyrch farchnata i wneud hedfan o Gaerdydd yn cŵl.

Dechrau o’r newydd felly – cyfle da felly i gael gwefan dwyieithog ar gyfer brif faes awyr Cymru? Peidiwch bod yn ffôl. Mae’r /en/ yng nghyfeiriad tudalennau’r wefan yn awgrymu y bydd /cy/ yn dilyn yn y dyfodol ond fe roedd /en/ yn yr hen wefan hefyd a daeth dim byd o hynny.

Postiwyd yn Newyddion, Y We | 2 Sylw

Disg wedi llithro

Os ydych chi’n gweinyddu systemau yn ddigon hir, rydych chi’n datblygu rhyw gysylltiad telepathig gyda’r peiriannau. Os yw peiriant yn crashio neu yn stopio gweithio’n gywir am ryw reswm, mi fyddai’n teimlo’n anhapus iawn tan i fi drwsio’r broblem. Pan godes i bore ma ro’n i’n teimlo ychydig yn dost – dim byd i’n atal i rhag mynd i’r gwaith ond digon i fi feddwl dwywaith.

Dwi’n edrych ar fy ebost yn y bore bob tro rhag ofn fod unrhyw neges bwysig, i’w ddelio gyda fe ar frys. A’n wir roedd ebost o gydweithiwr yn dweud fod un gweinydd yn ‘sâl’. Roedd y gweinydd gwe yn dal i weithio heb ddim byd amlwg o’i le ond roedd hi’n amhosib cysylltu a’r gweinydd.

Roedd gen i ryw syniad beth oedd y broblem falle – mae’r rheolwr disg ar y peiriant yma wedi ‘cloi’ unwaith o’r blaen. Gan fod y gweinydd yn defnyddio pâr o ddisgiau mewn system RAID, mae popeth dal i weithio os yw un disg yn marw. Ond nid disg marw oedd hwn ond y rheolwr ei hunan, felly roedd angen ail-ddechrau’r peiriant.

Ar ôl ebostio’r cwmni yn Llundain sy’n gofalu am y rhwydwaith, fe wnaethon nhw ail-ddechrau’r peiriant ond heb lwc. Doeddwn i ddim yn ffansio trip i Lundain i drwsio’r peth felly ces i afael ar beiriannydd yn Telehouse, wnaeth eistedd o flaen y peiriant gyda allweddell a monitor a wnes i siarad y boi trwy’r camau i gael y gweinydd nôl ar ei draed.

10 munud yn ddiweddarach roedd y gweinydd yn well a fe o’n i’n teimlo’n llawer gwell hefyd.

Postiwyd yn Gwaith | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Disg wedi llithro