Hei Mr DJ

Mae’n amlwg fod rhai darllenwyr yn ysu am ychydig o hen ysgol SRG unwaith eto, felly dyma ni chwe cân oddi ar gaset amlgyfrannog Hei Mr DJ, a gyhoeddwyd ar Label 1 yn 1990 (CS007). Mae yna ganeuon gan yr Alarm, y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Llwybr Llaethog Geraint Jarman, Meic Stevens ar hwn ond dwi ddim wedi cynnwys rhain gan fod y caneuon ar gael ar gasgliadau neu albymau eraill gan yr artistiaid hynny.

      Tynal Tywyll - Dinosaur
[3.1MB]
      Jecsyn Ffeif - Byw Mewn Gwlad
[4.9MB]
      Crumblowers - Syth
[4.4MB]
      Hefin Huws - Animal Farm
[3.7MB]
      Huw 'Bobs' Pritchard - Disgynnodd y Diafol i'w Cheg
[5.8MB]
      Ust - Breuddwyd
[4.9MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw

Chwiliad Blog

Mae Google wedi lansio ei chwiliad blog – er fod canlyniadau wedi eu cynnwys fel rhan o chwiliad arferol Google ers peth amser. Oes, mae cyfieithiad Cymraeg o hwn ar gael ond mae’n edrych fel nad yw Google wedi troi’r ieithoedd arall ymlaen eto.

Be sy’n werth nodi yw pa mor gyflym mae Google yn diweddaru eu canlyniadau o flogiau i gymharu a tudalennau gwe arferol. Er, dwi ddim yn gwybod os oes yna unrhywbeth unigryw na gwahanol i’w gynnig gan Google yma, gan fod gwasanaethau fel Technorati wedi cynnig chwiliadau tebyg ers peth amser.

Postiwyd yn Blogiau, Y We | 1 Sylw

Llyfrau’r gorffennol

Diolch i Dad am ddangos gwefan i fi sydd heb gael llawer o sylw mae’n rhaid dweud, sef Llyfrau o’r Gorffennol sy’n rhan o Culturenet Cymru. Mae yna un ddolen fach i’r wefan yn Gwales, ond dyw Google ddim yn gwybod dim amdano drwy’r cyfeiriad Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae Dad yn mwynhau darllen ‘Teulu Bach Nantoer’ a mae’n debyg fydd 10 o lyfrau ychwanegol yno erbyn diwedd mis Medi. Un cŵyn fach – mae yna gyfieithiadau od ar y dolenni llywio – ‘Nesaf tudalen’, ‘Olaf tudalen’ ayyb.

Postiwyd yn Cymraeg, Llyfrau, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Llyfrau’r gorffennol

Y Diliau

Mae gen i gysylltiadau gyda’r Diliau am resymau wnai esbonio rhywbryd arall. Ond am nawr dyma MP3 o dau drac oddi ar EP 12″ “Caneuon y Diliau” (QEP 4043) ryddhawyd ar ddechrau’r 60au gan Recordiau Qualiton o Bontardawe. 12/5 oedd pris y record, gyda llaw, nid fod hynny’n golygu dim i mi.

Mae’r gân gynta’n esbonio’r clawr beth bynnag.
Clawr Caneuon y Diliau

      Y Felin Fach Ddŵr
[3.65MB]
      Tyred Yn Ôl
[2.53MB]

Dwi’n credu fod e’n werth cofnodi manylion y clawr cefn (saesneg) yn ei gyfanrwydd yma. Mi fydd yr heip marchnata ynglyn a rhai grwpiau Cymraeg heddiw yn edrych yr un mor wirion mewn 40 mlynedd dwi’n siwr.

A breath of fresh air is currently blowing through the field of Welsh entertainment. The traditional Noson Lawen atmosphere is suddenly leavened with a new ingredient, and living Welsh culture brought into step with the sixties.

It is not without reason that this sleeve note is written in English. It is time that all should appreciate that Wales today can supply the needs of those who are abreast of the second half of the twentieth century. Songs of protest, love, work and praise, all have their place in the repertoire of the new generation of Welsh music-makers.

Amongst those “Y Diliau” produce sounds in the modern idiom with all the panache and professionalism of their Los Angeles, St. Germain or Barcelona equivalents. Their language is Welsh, but language in no way restricts the universality of their appeal. It is possible for a non-Welsh-speaker to listen to them with all the enjoyment he might derive from a South American or Hungarian Gypsy group. The Welsh speaker, of course, being familiar with the group, will expect from these songs a rich and worthwhile content.

We look to this record to provide a step forward in Welsh entertainment. What the “Triawd y Coleg” did for Welsh light music in the forties, we expect “Y Diliau” to do in the sixties. The group, already firm favourites on Welsh T.V., must be a musical milestone in the Welsh tradition which, if it is to live, must remain “alive” and must communicate beyond its native heath.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw

O’r Gad Mr Iwan

Yn 1991, fe ddedfrydwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas i’r carchar am 12 mis ar ôl torri mewn i swyddfeydd y llywodraeth fel rhan o ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.

Er mwyn codi arian at CyI yn sgîl hyn (a fel esgus da i ddathlu sîn gerddoriaeth iach iawn ar y pryd), fe ryddhawyd CD O’r Gad (Ankst 020). Mae yna lot o stwff da ar hwn felly mi fydd rhaid dewis yn ofalus. Mae’r traciau yma i gyd wedi ei ryddhau ar albymau yr artistiaid eu hunain am wn i.

      Aros Mae - How!
[3.14MB]
      Bob Delyn a'r Ebillion - Ffair y Bala
[4.53MB]
      Geraint Jarman - Tracsiwt Gwyrdd
[4.33MB]
      Datblygu - Popeth yn Gymraeg
[3.82MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 3 Sylw