Llyfrau’r gorffennol

Diolch i Dad am ddangos gwefan i fi sydd heb gael llawer o sylw mae’n rhaid dweud, sef Llyfrau o’r Gorffennol sy’n rhan o Culturenet Cymru. Mae yna un ddolen fach i’r wefan yn Gwales, ond dyw Google ddim yn gwybod dim amdano drwy’r cyfeiriad Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae Dad yn mwynhau darllen ‘Teulu Bach Nantoer’ a mae’n debyg fydd 10 o lyfrau ychwanegol yno erbyn diwedd mis Medi. Un cŵyn fach – mae yna gyfieithiadau od ar y dolenni llywio – ‘Nesaf tudalen’, ‘Olaf tudalen’ ayyb.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Llyfrau, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.