Crochenwaith

Dyma flog newydd gan y cerddor, actor, cyfarwyddwyr (a boi cŵl) – Gareth Potter. Mae’n braf gweld cyfraniadau mwy swmpus fel yma yn y rhithfro yn enwedig o ystyried natur bersonol a thrist y cofnodion cynta. Mae gan Gareth flog arall hefyd sef Caru/Casau.

Postiwyd yn Blogiau, Rhithfro | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Crochenwaith

Chris yn y Car

Mae Chris wedi fy herio i fynd ati i eto ail-gymysgu eu eiriau doeth. Wel dyma ymgais arall, mewn un awr o whare’ ambyti. Mae’r samplau yn dod o bost diweddaraf Chris wnaeth e tra’n gyrru i’r gwaith. Mae’r lŵps cerddorol yn dod o drac ‘Yr Oerfel Fawr’ (Chris talentog arall – mae fwy o mp3au ar ei wefan).

      Cymal 3 - CC2
[1.95MB]

Postiwyd yn Blogiau, MP3 | 2 Sylw

Teimlo’n gymysglyd

Eto heno o’n i’n teimlo fel chwarae gyda sampls felly wnes i orffen rhywbeth wnes i ddechrau ychydig wythnosau yn ôl sef ail-gymysgu Teithiwr gan John Grindell. Dyna gyd dwi wedi wneud yw torri allan ychydig ddarnau allan a’i ail-drefnu felly sdim byd clyfar yma.

      Cymal 3 - Teithiwr '93 (C3 '05 mics)
[5.49MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Teimlo’n gymysglyd

Eira cynnar

Wrth gerdded adre heno drwy Sgwâr Mount Stuart gwelais i eira ar y llawr. Roedd hi wedi bod yn bwrw glaw drwy’r dydd ond doedd hi ddim yn ddigon oer i fwrw eira. Ar ôl troi y cornel fe welais i’r stryd i gyd yn wyn a boi gyda peth tebyg i chwythwr dail yn gorchuddio’r stryd gyda eira ffug.

Dyw ffilmio ddim yn beth anghyffredin rownd fan hyn ond dyma’r tro cynta i fi gerdded i’w chanol hi. Er fod plismon yno’n atal ceir rhag pasio wnaeth neb fy stopio felly gerddes i ymlaen drwy’r eira. Roedd y stryd wedi’i addurno ar gyfer 19ed ganrif gyda bareli ar ochr y stryd a tân ynddynt, a trol yn llawn sachau. Roedd un actor i’w weld yno, mewn cot fawr ddu a het, ond welais i neb arall. Felly dwi ddim yn gwybod pwy oedd yn ffilmio.. dwi’n credu fod Dr Who wedi gorffen y bennod arbennig ar gyfer y Nadolig.

Chwythu eira
Golau llachar
Dyn mewn cot ddu

Postiwyd yn Bywyd, Lluniau | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Eira cynnar

Chris Mics

Dwi’n mwynhau darllen a gwrando ar flog Chris Cope yn fawr iawn. Wrth ddal i fyny gyda rhai o’i negeseuon heno wnes i ystyried pa mor sampladwy yw ei ‘bostiau clywedol’, yn enwedig gyda’r newid sydyn o acen Cymraeg i saesneg Americanaidd.

Felly es i chwarae am ryw awr i greu trac bach syml munud o hyd. Dyma fe ‘te:

      Cymal 3 - CC1
[1.16MB]

Postiwyd yn Blogiau, MP3 | 6 Sylw