Diwrnod yn y bae

Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. Tra o’n i yna roedd criw o India yn ffilmio yng ngwahanol lefydd o gwmpas y Bae. Roedden nhw’n griw eitha proffesiynol yr olwg (tua 30 ohonynt) gyda camera ffilm go iawn, nid fideo, er nad oedd llawer o drefn i’w weld arnynt – fues i am hir yn trio gweithio allan pwy oedd yn cyfarwyddo.

Ffilmio Indiaidd ym Mae Caerdydd

Roedden nhw’n ffilmio mewn darnau o 5 eiliad gyda merch a bachgen yn dawnsio i gyfeiliant cerddoriaeth. Dwi’n dweud dawnsio, ond oedd e’n amlwg mai nid dyna oedd sgil cryfaf y dyn ifanc o flaen y camera. Roedd yna ddau goreograffydd yn ei helpu i ddysgu y symudiadau ar gyfer pob darn byr ac yn cael trafferth mawr i gael y peth yn iawn – nid oedd yn ysgafn ar ei draed…

Fe wnes i dreulio hanner awr yn gwylio hyn ac ar ôl deg cais fe lwyddwyd i fodloni’r cyfarwyddwyr a fe aethon nhw ymlaen i’r 5 eiliad nesaf. Yr ymadrodd dwi’n gofio o’r diwrnod yma oedd “Ready! Sound! Taking!” (rhywbeth felna.. mewn acen Indiaidd). Dyma ddau glip fideo o’r ffilmio a dyma luniau o’r diwrnod.

Take 23 [10.2MB]
Ready! Sound! [12.1MB]

Postiwyd yn Bywyd, Ffilm, Lluniau | 3 Sylw

Gêm on Hogia!

Daeth sengl nadoligaidd drwy’r post o label R-Bennig. Yn ôl y datganiad mae R-bennig wedi ryddhau dros 30 o deitlau (mor belled) flwyddyn yma a nawr dyma sengl (R-BEN 092) i gloriannu’r cwbl. Ryw fath o drip meddw drwy gêm darts yn y dafarn leol yw hwn.

      Aelwyd Anal Arts - Gêm On Hogia!
[2.72MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 1 Sylw

Gwasanaeth tân De Cymru

Dyma wefan Gymraeg Gwasanaeth Tân De Cymru (diweddarwyd ar 14 Hydref 2002). Ffacin iwsles.

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | 1 Sylw

Ebost y Mentrau

Mae’n boenus weithiau edrych ar y gwefannau Cymraeg sy’n cael ei cynhyrchu gan un dyn yn ei stafell gefn gyda chopi o Dreamweaver a dim clem am ddylunio. Mae gwefannau y Mentrau Iaith yn arbennig o ofnadwy. Dyw’r ffaith fod gan bob un gyfeiriad hollol wahanol ddim yn glyfar iawn chwaith. Mi fyddai cael pob un o dan un parth wedi bod yn gam defnyddiol (ond yn rhy amlwg efallai).

Dyw’r ffaith fod y gwefannau wedi’u cynhyrchu ar gyllid o 5 ceiniog ddim yn esgus dros yr erchyllderau sydd yn cael eu cyflawni yma. Dyw taflu gwybodaeth ar wefan heb drefn na rheswm yn ychwanegu dim at ddatblygiad Cymraeg ar y we.

Ond rhywbeth arall wnaeth ysgogi’r rant bach yma – ers rhai misoedd mae’r negeseuon ebost sy’n dod o un Menter wedi torri oherwydd diffyg dealltwriaeth technegol y rhaglennwr o ffurf cywir ebost. Mae’r ebost yn danfon y pennawd yma:

“Digwyddiad Menter Iaith Abertawe” ebost@menterabertawe.org

Mae hwn yn bennawd annilys – mae angen nodau <> o gwmpas cyfeiriad ebost os oes enw yna hefyd. Mae nifer fawr o weinyddion ebost (yn cynnwys pob un dwi’n reoli) yn gwirio penawdau’r neges cyn ei dderbyn. Mae hyn yn dechneg sy’n atal llawer iawn o sbam ond hefyd yn beth hollol resymol i’w wneud gan fod yna safonau penodol (RFC 2822) ar gyfer penawdau ebost.

Y peth cynta i nodi yw fod hi’n amlwg nad oes neb yn edrych ar y negeseuon sy’n cael eu dychwelyd (neu fownsio) i’r gweinydd , er mwyn eu dileu o’r rhestr. Mae hyn yn dechneg safonol hefyd er mwyn gwneud yn siwr fod y rhestr yn ‘lân’ a ddim yn llawn hen gyfeiriadau sydd ddim yn bodoli rhagor.

A’r ail beth – ar ôl sylweddoli nad oeddwn i’n derbyn negeseuon y Fenter rhagor, mi wnes i yrru nodyn i’r ebost uchod yn esbonio’r broblem a sut i’w ddatrys. Ches i ddim ymateb felly wnes i yrru neges at rhai o swyddogion y Fenter i basio’r neges ymlaen. Wythnosau yn ddiweddarach – dim ateb chwaith felly beth mae dyn i wneud os yw pobl yn rhedeg gwasanaethau ar y rhyngrwyd heb fawr o glem am beth mae nhw’n wneud?

Postiwyd yn Technoleg, Y We | 4 Sylw

Bwyta sbam

Dwi wedi bod yn diodde cryn dipyn o sbam sylwadau ar y blog yma’n ddiweddar, er mae’n edrych fel ei fod wedi tawelu yn ddiweddar.

Mae’r blog wedi ei osod fel fy mod i yn gorfod cymedroli y sylw cyntaf gan unrhyw un – a mae hyn yn golygu fod pob neges sbam yn mynd i’r rhestr gymedroli yn syth. Mae hyn yn boen pan fo degau o negeseuon yn cael ei danfon gan fotiau sbam.

Ar ôl chwilio am y ffordd orau o atal sbam yn WordPress, a trio un neu ddau ategyn, mi ddes i ar draws Spam Karma 2. Mae hwn yn ategyn di-drafferth iawn a wedi bod yn effeithiol mor belled. Dwi hanner ffordd drwy gyfieithu y rhyngwyneb (gweinyddol) i Gymraeg – fan hyn.

Postiwyd yn Blogiau, Technoleg | 1 Sylw