Ebost y Mentrau

Mae’n boenus weithiau edrych ar y gwefannau Cymraeg sy’n cael ei cynhyrchu gan un dyn yn ei stafell gefn gyda chopi o Dreamweaver a dim clem am ddylunio. Mae gwefannau y Mentrau Iaith yn arbennig o ofnadwy. Dyw’r ffaith fod gan bob un gyfeiriad hollol wahanol ddim yn glyfar iawn chwaith. Mi fyddai cael pob un o dan un parth wedi bod yn gam defnyddiol (ond yn rhy amlwg efallai).

Dyw’r ffaith fod y gwefannau wedi’u cynhyrchu ar gyllid o 5 ceiniog ddim yn esgus dros yr erchyllderau sydd yn cael eu cyflawni yma. Dyw taflu gwybodaeth ar wefan heb drefn na rheswm yn ychwanegu dim at ddatblygiad Cymraeg ar y we.

Ond rhywbeth arall wnaeth ysgogi’r rant bach yma – ers rhai misoedd mae’r negeseuon ebost sy’n dod o un Menter wedi torri oherwydd diffyg dealltwriaeth technegol y rhaglennwr o ffurf cywir ebost. Mae’r ebost yn danfon y pennawd yma:

“Digwyddiad Menter Iaith Abertawe” ebost@menterabertawe.org

Mae hwn yn bennawd annilys – mae angen nodau <> o gwmpas cyfeiriad ebost os oes enw yna hefyd. Mae nifer fawr o weinyddion ebost (yn cynnwys pob un dwi’n reoli) yn gwirio penawdau’r neges cyn ei dderbyn. Mae hyn yn dechneg sy’n atal llawer iawn o sbam ond hefyd yn beth hollol resymol i’w wneud gan fod yna safonau penodol (RFC 2822) ar gyfer penawdau ebost.

Y peth cynta i nodi yw fod hi’n amlwg nad oes neb yn edrych ar y negeseuon sy’n cael eu dychwelyd (neu fownsio) i’r gweinydd , er mwyn eu dileu o’r rhestr. Mae hyn yn dechneg safonol hefyd er mwyn gwneud yn siwr fod y rhestr yn ‘lân’ a ddim yn llawn hen gyfeiriadau sydd ddim yn bodoli rhagor.

A’r ail beth – ar ôl sylweddoli nad oeddwn i’n derbyn negeseuon y Fenter rhagor, mi wnes i yrru nodyn i’r ebost uchod yn esbonio’r broblem a sut i’w ddatrys. Ches i ddim ymateb felly wnes i yrru neges at rhai o swyddogion y Fenter i basio’r neges ymlaen. Wythnosau yn ddiweddarach – dim ateb chwaith felly beth mae dyn i wneud os yw pobl yn rhedeg gwasanaethau ar y rhyngrwyd heb fawr o glem am beth mae nhw’n wneud?

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

4 Responses to "Ebost y Mentrau"