Mwy o Grindell

Wedi ei achub o hen fideo, dyma John Grindell yn gwneud perfformiad myletastig ar Uned 5 yn 1996. Drychwch arno fe’n swyno’r synthau, anwesu’r allweddellau, mwytho’r meicroffon… Ie, wel chi’n cael y syniad.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | 3 Sylw

Fel plantos a’i tegannau

Pan nes i ddechrau cymryd diddordeb yng ngherddoriaeth cyfoes Cymraeg ar ddiwedd yr 80au, mi fyddai gwylio Fideo 9 yn ddefod hanfodol. Doedd dim lot o ddiddordeb gen i mewn gwylio band ysgol arall yn chwarae gitârs a thrio bod yn sêr roc. Felly fe fyddai ambell fideo yn wneud i fi eistedd lan a meddwl “pwy ddiawl yw rhain?”. Dyma un o’r rhai cynta wnaeth hynny – ‘Santa Barbara‘ gan Datblygu:

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Cymraeg, Fideo | 1 Sylw

Peli a ffrwythau

Llynedd, fe wnaeth Sony wneud hysbyseb ar gyfer ei setiau teledu LCD newydd, gyda’r brand Bravia. Er mwyn gwneud hyn fe wnaethon nhw ollwng miloedd o beli rwber lawr un o strydoedd serth San Francisco. Dyma wefan yr hysbyseb le mae’n bosib gweld yr hysbyseb a sut aethon nhw ati i’w greu. (Gwefan wael sydd ddim yn gweithio’n gywir yn Firefox gyda llaw). Mae’r hysbyseb ar YouTube hefyd.

Nawr mae cwmni Tango wedi gwneud fideo sbwff ohono wedi ei leoli nid yn SF ond ar un o strydoedd serth Abertawe (efallai mai tebygrwydd enw saesneg y ddinas sy’n gyfrifol am y dewis). Fel y gwelwch chi, ffrwythau sydd yn y fersiwn yma am mai diod ffrwythau mae Tango yn ei hyrwyddo.

Mae’n debyg nad yw trigolion y stryd yn hapus am y ffilmio a maent yn trefnu deiseb i gwyno am y niwed a achoswyd i’r gymdeithas leol. Neu ydyn nhw? Mae yna wefan ar gyfer pobl yr ardal, wedi ei lunio yn hynod ofalus i edrych fel gwaith amatur – y GIF o’r faner Gymreig, y ffontiau anghyson, y cownter (sy’n sownd ar rhif 32) – mae e sbot on. Mae’r wefan yn rhan o’r ymgyrch feiral wedi ei drefnu o gwmpas yr hysbyseb.

Wrth gwrs, drwy flogio am hyn, dwi wedi dod yn rhan o’r ymgyrch, ond dyna ni. Peidiwch yfed diodydd Tango, mae nhw’n afiach.

Postiwyd yn Teledu, Y We | 1 Sylw

Y We Scymraeg

Yn parhau y thema, des i ar draws wefan cwmni Galeri, sy’n “asiantaeth o fri” ar gyfer cantorion, cerddorion. Mae’r dudalen gyntaf yn cynnig dewis iaith gyda’r baneri bondigrybwyll, ond beth am y tu fewn? Dyw’r cyfieithiadau ar y dudalen gartref Cymraeg ddim yn dechrau da – “cleientydd logiwch yma”, “Digwyddiadau ar ddod”. Does neb wedi cyfieithu’r newyddion Cymraeg chwaith, felly mae yna dudalennau deniadol Null.

Mae’n anodd credu fod rhai cwmnïau yn hapus i gael wyneb cyhoeddus mor druenus ond efallai dyliwn i wybod yn well hefyd erbyn hyn.

Postiwyd yn Scymraeg, Y We | 2 Sylw

Wythnos Byw’n Iach

Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?

Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?

Postiwyd yn Newyddion, Scymraeg, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Wythnos Byw’n Iach