Fe ymddangosodd y ddau Jôs o S4C o flaen “Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol” yn y Cynulliad ddoe. Fe ddatgelodd y prif weithredwr, Ian Jones, fod y sianel yn gobeithio lansio sianel HD ar loeren erbyn 2016. A stwffiwch bawb arall sy’n gwylio ar Freeview.
Roedd sianel S4C Clirlun ar gael ar lwyfan Freeview rhwng Gorffennaf 2010 a Rhagfyr 2012. Mae’r BBC yn gwneud camgymeriad drwy ddweud mai ar Freesat oedd S4C Clirlun – doedd y sianel erioed ar gael ar loeren er roedd bwriad i’w lansio ar Freesat rhywbryd.
Yn ôl S4C, fe arbedwyd £1.5m drwy gau Clirlun ar Freeview ond fe fydd Clirlun ar Freesat yn costio tua £1m. Dyw hyn ddim yn arian mân felly – mae’r arian a arbedwyd o gau Clirlun yn amlwg wedi ei wario ar raglenni ond nawr fe fydd angen gwneud arbedion o £1m eto.
Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael i’r mwyafrif ag yn hygyrch. Dyw dewis un llwyfan darlledu dros y llall ddim yn ateb y gofynion hyn.
Gan fod yna gost uchel iawn o ddarlledu S4C yn HD ar unrhyw lwyfan, fasen i’n argymell y byddai’n llawer gwell gwario arian ar lwyfan sy’n fwy agored i bawb – y we – a uwchraddio Clic i ddarparu ffrydiau HD a lawrlwythiadau. Mae fersiwn newydd o Clic mewn ‘beta’ ar hyn o bryd ond does dim sôn am welliannau i’r llun SD heb sôn am ddarparu HD. Ond mae’n edrych yn bert, felly peidiwch poeni am safonau technegol.
Mae’r BBC wedi darlledu ffrydiau HD ar yr iPlayer ers 2009. Nid yw’n HD ‘llawn’ ond mae e yn 720p a gyda datblygiadau yn cywasgu fideo mae’r ansawdd yn uchel iawn.
Er mwyn gwylio ffrydiau HD iPlayer mae’r BBC yn argymhell cysylltiad o 3.5Mbps er dwi’n gwybod fod yn gweithio ar gysylltiadau tua 3Mbps. Mae’n wir i ddweud nad oes gan bawb yng Nghymru gysylltiad rhyngrwyd da ar y cyflymder hyn ond bwriad y llywodraeth yw i ddarparu band llydan cyflym i’r rhan fwyaf o Gymru erbyn 2016. Hyd yn oed heb hynny mae dal yn bosib i lwytho lawr rhaglenni HD o’r iPlayer i’w gwylio heb drafferth.
Mae yna hefyd fwlch mawr o ran darparu rhaglenni S4C (hen a newydd) ar lwyfannau fel iTunes, Netflix ac ati – llwyfannau digidol lle taw cynnwys HD yw’r norm (a mae trafodaeth pellach am hyn ar Ffrwti).
Mewn adeg lle mae eu cyllid yn gwbl ansicr, yn hytrach na gwario miliynau ar ddarlledu lloeren, fasen i’n awgrymu yn garedig y byddai llawer gwell defnydd o gyllid S4C i fuddsoddi o ddifrif mewn gwasanaethau arlein fel Clic neu bartneriaethau gyda darparwyr digidol eraill.