Wnaeth fy fideo ddoe ddim llawer o les i Matthew, sydd yn dal i frwydro yn erbyn y Dewin Ding, lan yn nhref Efrog.
Yn parhau y thema felly, dyma eitem arall o Sgŵp yn trafod gwisg ysgol newydd! Edrychwch mas am ymddangosiad rhywun adnabyddus (oedd hi’n brif ferch falle?) yn cymryd yr awennau ar y drafodaeth, fel y mae’n parhau i wneud.
Gan Rhys 17 Rhagfyr 2006 - 6:22 pm
Wnest ti yn y 90au agor warws o VHSes allai fod yn ddiddorol mewn 15 mlynedd? Mae hwn yn stwff gwych.
Mae’n rwystredig gwylio hwn nawr, am ei fod yn llawn o wynebau cyfarwydd na fedra i roi enw iddyn nhw. Y rhai y galla i’u henwi ar wahân i’r un amlwg yw Nia Jenkins (y disgybl cyntaf i roi ei barn ar y wisg newydd), a Nia Môn (y ferch arall yn y cylch trafod, aeth mlaen i ennill Medal Ryddiaith yr Urdd tua 1998 ac sydd bellach, os cofiaf, yn gweithio i Menter a Busnes). Katherine Davies oedd y dirprwy brifathrawes gafodd ei chyfweld yn y darn, a Branwen Thomas (merch Sulwyn) oedd yn ei holi.
Gyda llaw, dwi ddim yn meddwl i Heledd fod yn brif ferch erioed, ond mi oedd hi’n un o’r rhai oedd yn gwneud llawer o berfformio a phethau tebyg yn yr ysgol. Nid bod hi’n syndod i neb glywed hynny wrth gwrs.
Gan Ows 18 Rhagfyr 2006 - 12:59 am
‘Mef’ yw’r bachgen arall yn niwedd y sgwrs. Roedd o’n coleg gyda fi ym Mangor
Gan Rhys 29 Rhagfyr 2006 - 1:02 pm
Sori, dyw hyn ddim o ddiddordeb i neb arall dwi’n siwr, ond er cywirdeb: Elin Jenkins, nid Nia, medd Mam ar ol gwylio hwn dros y Nadolig. Hi sy’n iawn.