Dychmygwch hyn. Rydych chi’n un o gynghorau lleol Cymru rhywbryd yn 2001, ac yn meddwl am sut i ddatblygu eich gwasanaethau ar lein. Mae gennych wefan syml yn barod ond mae’n amser apwyntio arbennigwyr allanol i ddatblygu un newydd sbon. Mae’r wefan yn cael ei gynllunio fel gwasanaeth dwyieithog, fel y dylai fod yn ôl deddf gwlad.
Rydych chi’n treulio blwyddyn yn datblygu a pharatoi’r cynnwys, cyn lansio’r wefan yn gynnar yn 2002, er nad yw’r cynnwys Cymraeg ddim ar gael eto. Dim problem – cuddiwch y botwm Cymraeg a fe fydd pawb yn hapus. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r safle Cymraeg yn lansio o’r diwedd.
Yn 2003, rydych chi eisiau datblygu ‘gwefan gymunedol’ am mai dyma ffasiwn y cyfnod (a mae yna grant bach handi o Ewrop). Rydych chi’n prynu meddalwedd rheoli cynnwys drud iawn ac yn mynd ati i greu gwefan newydd sydd yn dyblygu rhan fwyaf o’r cynnwys sydd yn eich gwefan wreiddiol. Mae’r wefan newydd yn cael ei lansio yn uniaith Saesneg ond am nad yw’n wefan ‘swyddogol’ y cyngor, sdim angen y Gymraeg nag oes?
Mae blynyddoedd yn pasio a mae’ch gwefan swyddogol yn dechrau mynd yn hen a diflas. Erbyn 2006 rydych chi’n penderfynu ail-ddatblygu y wefan yn fewnol a mae’r gwaith o grynhoi gwybodaeth a chynnwys yn dechrau eto. Flwyddyn yn ddiweddarach mae papur newyddion y cyngor yn cyhoeddi’n falch fod y wefan newydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr. Mae’r misoedd yn pasio a sdim golwg ohono. Ond ym mis Awst, o’r diwedd, ar ôl ychydig o drafferthion gyda’r gweinydd .NET lansiwyd gwefan newydd.
Ar ôl treulio gymaint o amser ac egni yn datblygu’r gwasanaeth newydd, fyddech chi ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad eto fyddech chi? A lansio heb ddim o’r cynnwys Cymraeg ar gael? Na, peidiwch bod yn ddwl!