Sefyllfa comedi

Fe soniais i o’r blaen am archif rhaglenni’r BBC, a dwi’n falch gweld fod rhaglen Gymraeg arall wedi ei ychwanegu, sef pennod eisteddfodol o Fo a Fe o’r 1970au.

Dwi’n gwybod fod y 70au yn ‘oes aur’ i comedi sefyllfa – dim ond tri sianel deledu oedd ar gael a roedd teledu, fel dull o adloniant, ar ei anterth. Ond rhaid gofyn y cwestiwn – os oedd mawrion fel Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones wedi gweld potensial y teledu i greu adloniant poblogaidd yn Gymraeg pam nad oes ganddon ni bobl tebyg yn gwneud yr un peth heddiw? Roedd cael actorion gwych fel Ryan Davies yn help mawr wrth gwrs – fe fyddai ei gymeriad ‘Twm Twm’ a’i fratiaith hyfryd yn rhoi harten i ‘amddiffynwyr’ safonau iaith heddiw.

Mae comedi sefyllfa wedi dod yn boblogaidd (ac safonol) unwaith eto yn saesneg a mae hyd yn oed cymdeithas Gymreig yn cael eu adlewyrchu ar gomediau fel Gavin a Stacey a rhaglenni Rob Brydon.

Felly lle mae’r comediau Cymraeg wedi mynd? Allwn ni ddim dibynnu ar ail-ddarllediadau o C’mon Midffild am byth. Oes yna hyd yn oed awduron fyddai’n gallu greu gomedi sefyllfa lwyddiannus a phoblogaidd heddiw? Neu fel fyddai Twm Twm yn dweud “os na rw’yn lan i’r job?”

Postiwyd yn Teledu | 2 Sylw

Di-wifr, o ddifri

Mae’r garfan ‘hetiau tin-ffoil’ wrthi eto yn lledu ofn ynglŷn a technoleg di-wifr. Does dim tystoliaeth fod unrhyw niwed yn deillio o’r dechnoleg ond rhaid meddwl am y plantos!

Mae ymbelydredd electromagnetic llawer mwy pwerus wedi ei ddar-lledu o fastiau radio, teledu, lloerennau ac ati ers degawdau a does dim galw am wahardd rheiny, na unrhyw dystoliaeth eu bod yn effeithio ar iechyd unrhyw un. Mae un cyn-athrawes yn dweud y dylai lleoli’r bocs di-wifr mor bell i ffwrdd a phosib o’r plant ac i droi’r pŵer i’w isafswm. Fe ddylai hi fynd yn ôl i’r ysgol efallai i gael gwers Ffiseg ac i ddysgu ychydig am Electroneg.

Y pella oddi wrth y cyfrifiaduron mae’r mast, y mwya pwerus sydd rhaid iddo fod i drosglwyddo’r signal yn gywir. Felly i fod yn ‘saff’, fe ddylai’r mast fod mewn lleoliad canolog mor agos i’r cyfrifiaduron a phosib. Mae’r electroneg o fewn y cyfrifiaduron ac o fewn yr uned ganolog yn gweithio ar y cryfder lleia posib yn barod, er mwyn arbed egni. Yn wir rhaid mynd allan o’ch ffordd i newid cryfder y signal.

Mae un peth yn wir – mae’r defnydd o dechnoleg di-wifr mewn ysgolion ychydig yn amheus, er mwyn dilyn ffasiwn heb lawer o reswm. Mae yna fanteision o allu symud gliniaduron neu gyfrifiaduron o gwmpas heb orfod poeni am osod gwifrau ar gyfer rhwydwaith, a mi all arbed peth arian. Er hyn, mae yna ychydig o economi ffug yno – mae yna gost uwch am osod gwifrau ym mhob stafell ond mi all gosodiad safonol fod yn addas am 10 mlynedd neu fwy, tra fod technoleg di-wifr yn newid bob rhyw 3 blynedd a ni fydd byth mor gyflym a chysylltiad gwifrog. Mae rhwydwaith gwifrau yn rhwydd i’w wneud yn ddiogel hefyd tra fod bob amser posibilrwydd o hacio fewn i rwydwaith di-wifr.

Dwi’n amau fod llawer o’r dechnoleg sy’n cael ei gyflwyno i ysgolion yn cael eu gwthio gan gwmnïau masnachol a fod yr adrannau addysg a’r penaethiaid yn falch o gael brolio am eu technoleg ‘modern’ a gafwyd am bris bargen. Ond os wir eu hangen?

Postiwyd yn Gwyddoniaeth, Newyddion, Technoleg | 2 Sylw

Dyn hapus

Dwi wedi bod yn hymian cân drwy’r dydd ond does gen i ddim unrhyw glem lle glywais i e a beth oedd enw’r gân/grŵp. Ar rhyw flog siwr o fod, gan mai dim ond blogiau dwi’n cael amser i ddarllen dyddiau yma.

Diolch i Youtube fe wnes i lwyddo dod o hyd i’r gân gyda fideo answyddogol (sydd ddim yn arbennig). Dal ddim yn siwr lle glywais fe.

Mae’r trac yma gan y band Covenant o Sweden. Dyma’r tro cynta i fi glywed amdanyn nhw ond mae nhw’n ffefryn yn barod. Mae’r saeson yn hoffi malu cachu mai nhw sy’n gwneud y caneuon pop gorau, ond ers y 90au Sweden sydd ar y blaen am gerddoriaeth pop/electronic deallus (dyna pam fod y cynhyrchwyr i gyd yn heidio yno).

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Fideo | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dyn hapus

Sgriniau’r Senedd

Es i am dro o gwmpas adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn ôl, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 mis oed. Mi fase chi’n meddwl hefyd bod modd glanhau staens coffi oddi ar y soffas lledr drud.

Ond fel gîc be o’n i eisiau drafod oedd y mannau gwybodaeth ‘rhyngweithiol’ sydd o gwmpas yr adeilad. Mae’r sgriniau yn sefyll fel monolithiau gwyn ar ochr y Neuadd a’r Oriel (mae o leia 8 ac efallai mwy). Dwi wedi gweithio ar fannau gwybodaeth (neu ciosg) o’r math yma yn ystod y flwyddyn ddiwetha, felly mae gen i rhyw ddealltwriaeth o beth sy’n bosib ei wneud gyda’r dechnoleg. Mae’r rhan fwyaf o giosgs yn gweithio drwy gyffwrdd y sgrîn, i arbed cael llygoden, ac yn aml mae bysellfwrdd syml. Sgrîn yn unig (wel dau i ddweud y gwir) sydd yn rhai’r Cynulliad.

I ddechrau does dim byd arnyn nhw i ddweud fod hi’n bosib eu defnyddio i gael gwybodaeth a fod rhaid cyffwrdd y sgrîn i wneud hynny. Fe bwyses i sgrîn cwpl ohonyn nhw a wnaeth ddim byd ddigwydd, felly o’n i’n meddwl i ddechrau nad oedden nhw’n sgrîniau cyffwrdd. Dwi’n amau fod y ddau beiriant yna wedi ‘rhewi’, er mai peth syml mewn ciosg da yw gwneud yn siwr fod peiriant yn ail-ddechrau os yw’r system yn cloi lan.

Ar ôl dod o hyd i beiriant oedd yn gweithio, roedd tudalen ar y sgrîn yn barod. Hynny yw, er fod neb o gwmpas a fod y sgrîn wedi bod yn segur am beth amser, doedd y system ddim wedi dychwelyd i dudalen flaen a fyddai’n gallu rhoi cyflwyniad i ddefnyddwyr newydd, ynghyd a dewis iaith.

Wedi dechrau defnyddio’r man gwybodaeth fe sylweddolais yn gyflym iawn mai dim ond un pwrpas oedd ganddo, sef dangos lle roedd pob aelod yn eistedd yn y siambr (er, roedd e’n dal i ddangos hen aelodau’r Cynulliad o etholiad 2003). Does dim byd am gefndir yr adeilad a’r gwaith adeiladu na’r sefydliad eu hunan.

Ar gyfer defnydd arferol mae ciosg o’r fath yn defnyddio technolegau safonol fel PC yn rhedeg Windows a porwr gwe sy’n dangos gwefan yn dod o weinydd mewnol (neu o’r rhyngrwyd o bosib). Er bod angen cynllunio’n ofalus i wneud yn siwr fod y testun i’w weld yn glir ar faint penodol y sgrîn, dyw e ddim yn rhywbeth hynod o gymleth i’w adeiladu. Dim rheswm felly pam na allai’r sgrîn gael dolen drwy i wefan y Cynulliad (mae nhw wedi talu digon amdani).

Dwi’n dal i ddisgwyl am wybodaeth gan y Cynulliad am faint wariwyd ar y system yma ac os oes unrhyw fwriad ei ddefnyddio mewn dull mwy effeithiol.

Postiwyd yn Gwleidyddiaeth, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Sgriniau’r Senedd

Archif rhaglenni’r BBC

Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae’n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw’r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo’r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o’r 1930au hyd heddiw.

Mae’r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgwâr maint 320×240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi’n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio ‘trymach’ fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae’n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa bynciau sy’n boblogaidd – a efallai creu cyfle i ail-ddarlledu y rhaglenni ar sianeli teledu arferol.

Ychydig iawn o ddeunydd Cymreig penodol sydd yno. Mae 6 rhaglen yng nghasgliad ‘Cymru’ (allan o 780 rhaglen yn yr archif) yn cynnwys cyngerdd Max Boyce o’r 70au a rhaglen Joan Bakewell o’r 80au yn trafod mewnfudo i Gymru. Mi wnes i ofyn am gynnyrch yn Gymraeg a mae nhw wedi ychwanegu un rhaglen, sef rhaglen ddogfen gan Ifor ap Glyn yn edrych ar hanes cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Fel mae’n digwydd, mae gen i’r rhaglen hwn ar dâp fideo, mewn gwell cyflwr na’r fideo ar lein.

Mi allwch chi helpu cael deunydd Cymraeg i’r archif drwy chwilio catalog enfawr y BBC a phleidleisio am raglenni. Beth am y rhaglenni addysg wnes i wylio yn yr 80au fel Hwnt ac Yma a Hyn o Fyd?

Neu rhaglenni plant fel Yr Awr Fawr a Bilidowcar?

Beth am bennod cynnar o Bobol y Cwm neu drama dditectif Bowen a’i Bartner?

Beth am Beti George ar Heddiw o 1976 neu cyfweliad o sioe siarad Hywel Gwynfryn?

Efallai rhywbeth o Radio Cymru fel sesiwn Datblygu o 1992 ar Heno Bydd Yr Adar yn Canu neu rhaglen o Pesda Roc 1984?

Dwi’n meddwl fod ni’n haeddu cael mwy na un rhaglen fach unig yn yr archif ac yn sicr yn rhywbeth cynharach na 1992 (os nad yw BBC Cymru wedi ailgylchu’r tapiau wrth gwrs).

Postiwyd yn Teledu, Y We | 2 Sylw