Stori’r Byd

Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:

Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur. Mae gan academyddion yr holl amser yn y byd i gynllunio, trafod a threfnu. Yn y byd masnachol, mae’n rhaid cymryd y cyfle mor fuan a phosib gan fod y byd yn newid drwy’r amser. Yn 2001 roedd sefydlu papur dyddiol newydd yn ychydig o anachronism gyda dyfodiad y we, a mae’r syniad hyd yn oed yn fwy gwallgo heddiw.

Erbyn hyn, mae cylchgrawn Golwg yn sôn am sefydlu gwefan newyddion dyddiol. Sgwn i a fydd hwn yn gweld golau ddydd cyn diwedd y ddegawd?

Postiwyd yn Newyddion, Y We | 5 Sylw

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2007

Dwi newydd greu tudalen ar gyfer gwe-gamera sy’n edrych allan ar ganolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r olwyn fawr yn rhan o atyniadau Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd fydd yn agor fory. Mae’r llun yn adnewyddu bob munud yn otomatig, ond mi fydd yr olygfa yn well ar ôl 7 o’r gloch pan fydd goleuadau’r swyddfa yn mynd allan.

Gwyliwch yma

Postiwyd yn Hwyl, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2007

Dwdl i Gwgl

Yn ôl Wedi 7, mae merch o Gymru wedi cyrraedd 48 olaf cystadleuaeth arlunio Google i blant ysgol. Mae’n werth nodi fod ennillwyr yn cael eu dewis ymhob rhanbarth felly mae plentyn o Gymru ym mhob categori oedran. Fe allwch chi bleidleisio hefyd dros Gwyn Owen o fy hen ysgol sydd wedi ennill rhanbarth Cymru yn yr oedran 11-14 oed.

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dwdl i Gwgl

Comed Holmes

Es i allan neithiwr i edrych am gomed Holmes (dim perthynas i Sherlock). Yn yr wythnos ddiwetha mae wedi dod yn ddigon llachar i’w weld gyda’r llygad yn unig. Gan ei fod yn tywyllu mor gynnar mae fwy o gyfle i’w weld hefyd – neithiwr roedd yr awyr yn glir tan tua 9 o’r gloch cyn iddi gymylu.

Gyda’r llygad, mae’n edrych fel seren. Drwy delesgôp neu finocwlar mae’n ymddangos fel pelen niwlog. Mae’n reit hawdd i’w weld – edrychwch i’r gogledd-ddwyrain i ddechrau. Yn uchel yn yr awyr mae siap ‘W’ cyfarwydd Cassiopeia. Yn dilyn lawr ac ychydig i’r dde, mi ddylech chi weld triongl o sêr. Ar ben y triongl mae’r seren lachar Mirfak. Y seren ar y chwith yw Comed Holmes.

Dyma fwy o wybodaeth ar sut i wylio’r gomed.

Postiwyd yn Y Gofod | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Comed Holmes

Dathlu deg

Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).

Continue reading →

Postiwyd yn Bywyd, Gwaith | 1 Sylw