Sgriniau’r Senedd

Es i am dro o gwmpas adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn ôl, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 mis oed. Mi fase chi’n meddwl hefyd bod modd glanhau staens coffi oddi ar y soffas lledr drud.

Ond fel gîc be o’n i eisiau drafod oedd y mannau gwybodaeth ‘rhyngweithiol’ sydd o gwmpas yr adeilad. Mae’r sgriniau yn sefyll fel monolithiau gwyn ar ochr y Neuadd a’r Oriel (mae o leia 8 ac efallai mwy). Dwi wedi gweithio ar fannau gwybodaeth (neu ciosg) o’r math yma yn ystod y flwyddyn ddiwetha, felly mae gen i rhyw ddealltwriaeth o beth sy’n bosib ei wneud gyda’r dechnoleg. Mae’r rhan fwyaf o giosgs yn gweithio drwy gyffwrdd y sgrîn, i arbed cael llygoden, ac yn aml mae bysellfwrdd syml. Sgrîn yn unig (wel dau i ddweud y gwir) sydd yn rhai’r Cynulliad.

I ddechrau does dim byd arnyn nhw i ddweud fod hi’n bosib eu defnyddio i gael gwybodaeth a fod rhaid cyffwrdd y sgrîn i wneud hynny. Fe bwyses i sgrîn cwpl ohonyn nhw a wnaeth ddim byd ddigwydd, felly o’n i’n meddwl i ddechrau nad oedden nhw’n sgrîniau cyffwrdd. Dwi’n amau fod y ddau beiriant yna wedi ‘rhewi’, er mai peth syml mewn ciosg da yw gwneud yn siwr fod peiriant yn ail-ddechrau os yw’r system yn cloi lan.

Ar ôl dod o hyd i beiriant oedd yn gweithio, roedd tudalen ar y sgrîn yn barod. Hynny yw, er fod neb o gwmpas a fod y sgrîn wedi bod yn segur am beth amser, doedd y system ddim wedi dychwelyd i dudalen flaen a fyddai’n gallu rhoi cyflwyniad i ddefnyddwyr newydd, ynghyd a dewis iaith.

Wedi dechrau defnyddio’r man gwybodaeth fe sylweddolais yn gyflym iawn mai dim ond un pwrpas oedd ganddo, sef dangos lle roedd pob aelod yn eistedd yn y siambr (er, roedd e’n dal i ddangos hen aelodau’r Cynulliad o etholiad 2003). Does dim byd am gefndir yr adeilad a’r gwaith adeiladu na’r sefydliad eu hunan.

Ar gyfer defnydd arferol mae ciosg o’r fath yn defnyddio technolegau safonol fel PC yn rhedeg Windows a porwr gwe sy’n dangos gwefan yn dod o weinydd mewnol (neu o’r rhyngrwyd o bosib). Er bod angen cynllunio’n ofalus i wneud yn siwr fod y testun i’w weld yn glir ar faint penodol y sgrîn, dyw e ddim yn rhywbeth hynod o gymleth i’w adeiladu. Dim rheswm felly pam na allai’r sgrîn gael dolen drwy i wefan y Cynulliad (mae nhw wedi talu digon amdani).

Dwi’n dal i ddisgwyl am wybodaeth gan y Cynulliad am faint wariwyd ar y system yma ac os oes unrhyw fwriad ei ddefnyddio mewn dull mwy effeithiol.

Postiwyd yn Gwleidyddiaeth, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Sgriniau’r Senedd

Archif rhaglenni’r BBC

Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae’n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw’r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo’r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o’r 1930au hyd heddiw.

Mae’r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgwâr maint 320×240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi’n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio ‘trymach’ fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae’n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa bynciau sy’n boblogaidd – a efallai creu cyfle i ail-ddarlledu y rhaglenni ar sianeli teledu arferol.

Ychydig iawn o ddeunydd Cymreig penodol sydd yno. Mae 6 rhaglen yng nghasgliad ‘Cymru’ (allan o 780 rhaglen yn yr archif) yn cynnwys cyngerdd Max Boyce o’r 70au a rhaglen Joan Bakewell o’r 80au yn trafod mewnfudo i Gymru. Mi wnes i ofyn am gynnyrch yn Gymraeg a mae nhw wedi ychwanegu un rhaglen, sef rhaglen ddogfen gan Ifor ap Glyn yn edrych ar hanes cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Fel mae’n digwydd, mae gen i’r rhaglen hwn ar dâp fideo, mewn gwell cyflwr na’r fideo ar lein.

Mi allwch chi helpu cael deunydd Cymraeg i’r archif drwy chwilio catalog enfawr y BBC a phleidleisio am raglenni. Beth am y rhaglenni addysg wnes i wylio yn yr 80au fel Hwnt ac Yma a Hyn o Fyd?

Neu rhaglenni plant fel Yr Awr Fawr a Bilidowcar?

Beth am bennod cynnar o Bobol y Cwm neu drama dditectif Bowen a’i Bartner?

Beth am Beti George ar Heddiw o 1976 neu cyfweliad o sioe siarad Hywel Gwynfryn?

Efallai rhywbeth o Radio Cymru fel sesiwn Datblygu o 1992 ar Heno Bydd Yr Adar yn Canu neu rhaglen o Pesda Roc 1984?

Dwi’n meddwl fod ni’n haeddu cael mwy na un rhaglen fach unig yn yr archif ac yn sicr yn rhywbeth cynharach na 1992 (os nad yw BBC Cymru wedi ailgylchu’r tapiau wrth gwrs).

Postiwyd yn Teledu, Y We | 2 Sylw

Synau gwyllt

Gwrandewch ar synau byd natur o amgylch y byd drwy wefan Wild Sanctuary (mae’n bosib cael ffeil KML er mwyn gweld y lleoliadau yn Google Earth/Maps).

Tra mod i ar y pwnc, pam fod lluniau lloeren (mewn gwirionedd, lluniau o awyren) Google mor wael ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru? Mae lluniau ansawdd uchel nawr ar gael ar draws Lloegr i gyd, ond dim ond mewn rhai ardaloedd poblog o Gymru, Alban a’r Iwerddon. Mae Google wedi dewis prynu’r lluniau o wahanol ffynhonnellau i greu clytwaith o luniau ond dwi’n gwybod fod nifer o gwmnïau masnachol wedi creu llyfrgell ‘lluniau o’r awyr’ ar gyfer gwledydd Prydain i gyd.

Postiwyd yn Y We | 2 Sylw

Gyrru drwy y nôs…

…mae e mor gyffrous. Ydych chi wedi gweld yr hysbyseb reit greadigol gan Volkswagen sy’n defnyddio llais Richard Burton yn darllen pwt allan o Under Milk Wood? Mae yna wefan slic iawn hefyd, lle mae’n bosib chwilio am neu greu ‘deithiau’r nôs’ eich hunain.

Postiwyd yn Teledu, Y We | 2 Sylw

Porthddwl

Dwi’n eitha hoffi gwefan gymunedol ‘gwe 2.0’ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n edrych fel fod prif swyddogion a heddweision cymunedol yn cyfrannu i’r wefan. Yn anffodus felly, does dim cynnwys Cymraeg i’w weld yno, ddim hyd yn oed ar flog y prif gopyn (oedd ar gael yn Gymraeg yn wreiddiol dwi’n siwr).

O edrych ar yr ychydig o Gymraeg sydd ar y wefan, y gair wnaeth daro fi oedd ‘Porthol’. Pwy ddiawl sydd wedi cyfieithu hwn ‘te? Porth yw’r cyfieithiad arferol o ‘portal’, ond mae’n edrych fel petai rhywun wedi edrych yn ei Briws, gweld ‘porthol’, ac anwybyddu’r Anat sy’n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y maes anatomeg.

Postiwyd yn Blogiau, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Porthddwl