Yn ôl Wedi 7, mae merch o Gymru wedi cyrraedd 48 olaf cystadleuaeth arlunio Google i blant ysgol. Mae’n werth nodi fod ennillwyr yn cael eu dewis ymhob rhanbarth felly mae plentyn o Gymru ym mhob categori oedran. Fe allwch chi bleidleisio hefyd dros Gwyn Owen o fy hen ysgol sydd wedi ennill rhanbarth Cymru yn yr oedran 11-14 oed.
Comed Holmes
Es i allan neithiwr i edrych am gomed Holmes (dim perthynas i Sherlock). Yn yr wythnos ddiwetha mae wedi dod yn ddigon llachar i’w weld gyda’r llygad yn unig. Gan ei fod yn tywyllu mor gynnar mae fwy o gyfle i’w weld hefyd – neithiwr roedd yr awyr yn glir tan tua 9 o’r gloch cyn iddi gymylu.
Gyda’r llygad, mae’n edrych fel seren. Drwy delesgôp neu finocwlar mae’n ymddangos fel pelen niwlog. Mae’n reit hawdd i’w weld – edrychwch i’r gogledd-ddwyrain i ddechrau. Yn uchel yn yr awyr mae siap ‘W’ cyfarwydd Cassiopeia. Yn dilyn lawr ac ychydig i’r dde, mi ddylech chi weld triongl o sêr. Ar ben y triongl mae’r seren lachar Mirfak. Y seren ar y chwith yw Comed Holmes.
Dyma fwy o wybodaeth ar sut i wylio’r gomed.
Dathlu deg
Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).
walescymru.com
Mae’r dyn wnaeth rhoi fy swydd cynta i fi wedi cychwyn gwefan newydd. Dwi’n siwr fod y syniad wedi bod yn ei ben ers y 90au ond dim ond nawr mae wedi mynd ati o ddifri (fe gofrestrwyd y parth ynghyd a nifer eraill tebyg yn 1999). Fel mae’n digwydd gwrddes i cyn gyd-weithiwr ar y trên wythnos dwetha’ a’i gwmni e sydd wedi gwneud y gwaith technegol.
Mae walescymru.com yn cynnig rhestrau o fusnesau, bwytai, llefydd i aros yng Nghymru ac yn y blaen. Does dim byd newydd yn hynny a mae nifer o wefannau yn gwneud yr un peth yn barod. Drwy’r llwch hud ‘gwe 2.0’ wrth gwrs mae’n bosib ail-ddyfeisio y math yma o wefan drwy gael y defnyddwyr i greu’r cynnwys, graddio a gwneud sylwadau. Mae dyluniad y wefan yn cyfateb a be mae rhywun yn ddisgwyl o wefan ‘2.0’ gyda cynllun glân, defnydd o fapiau Google a’r nodweddion arferol ar gyfer cyfrannu gwybodaeth. Gellir gweld fod tipyn o waith wedi ei wneud hefyd ar sut i drefnu’r wybodaeth a chreu adeiladwaith technegol fydd yn gallu ehangu yn y dyfodol.
Mae’r wefan ar ei gyfnod prawf ar hyn o bryd (ond sdim golwg o dag ‘beta’) gyda llawer o’r wybodaeth sylfaenol wedi ei fewnforio o ffynhonellau arall. Mewn maes mor gystadleuol mae’n anodd gwybod pa mor llwyddiannus fydd y syniad, heb sôn am yr angen i ‘wneud arian’ er mwyn ei gyllido a’i ddatblygu, ond mae’n dda gweld rhywun yn mentro.
Marwolaeth tywysog Harri
Wythnos nesa mi fydd y cerflunydd dadleuol Daniel Edwards yn arddangos ei gerflun newydd sy’n ‘coffau’ y tywysog Harri a’r ffaith na aeth allan i Iraq gyda gweddill ei gatrawd.
Fel darn o gelf mae’n bryfoclyd a wedi creu digon o ymateb. Mi fyddai nifer o bobl yn galw’r cerflun yn sarhaus, ond i fi, y peth mwya sarhaus yw’r ffaith fod y cerflun yn portreadu Harri yn dal baner Cymru yn ei law.