Voksenlia

Dyma fideo treiglad amser hyfryd o Voksenlia yn Norwy. Yn hytrach na defnyddio camera gwe cyffredin mae nhw’n defnyddio camera digidol i gymeryd lluniau ansawdd uchel bob 25 eiliad. Dyma’r wefan lle allwch chi weld y lluniau a’r fideo diweddaraf a pori drwy’r archif luniau nôl i 2003.

Postiwyd yn Fideo, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Voksenlia

Dwli daearyddol

Dyma fapiau cartwnaidd o’r 19eg ganrif yn portreadu gwledydd fel personoliaethau ystrydebol – Cymru fel ‘Owen Glendowr’.

Postiwyd yn Y We | 1 Sylw

Ymbarel marw ar y ffordd

Yn yr wythnos ddiwethaf mae wedi bod ychydig o antur wrth fynd i’r gwaith drwy’r gwynt a’r glaw. I ddechrau roedd rhaid penderfynu os oedd hi’n werth defnyddio ymbarel a brwydro yn erbyn y gwynt neu wisgo o’ch corryn i’ch sawdl mewn waterproofs. Wedyn mae angen osgoi yr holl byllau dŵr, lle mae’r gwteri wedi gorlifo. Mae gyrrwyr sy’n saff yn eu ceir clyd yn hoff o yrru ar gyflymder reit drwy ganol rhain er mwyn chwistrellu dwr ar draws cerddwyr ar y palmant.

Roedd y siwrne byr ar y trên yn reit syml, os oedd y gwasanaeth ar amser. Wrth gyrraedd orsaf Cathays wedyn roedd sialens arall, gan fod pwll o ddŵr wedi casglu wrth bont y rheilffordd. Felly i groesi’r bont roedd rhaid neidio ar cwpl o gerrig yng nghanol y dwr er mwyn cyrraedd y grisiau.

Bore ‘ma wrth gerdded lawr Plas y Parc roedd dinistr y nosweithiau cynt yn amlwg – dail, brigau, y mes a’r moch coed. Ond yn bennaf.. yr ymbarels marw yn gorwedd yn y gwter. Fe wnes i gyfri 14 o ymbarels rhacs wedi eu taflu o’r neilltu fel hen dedi bêr.

Roedd hi’n rhy wyntog i Olwyn Fawr Caerdydd neithiwr hefyd – fe gaeodd am wyth.

Postiwyd yn Bywyd | 1 Sylw

Stori’r Byd

Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:

Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur. Mae gan academyddion yr holl amser yn y byd i gynllunio, trafod a threfnu. Yn y byd masnachol, mae’n rhaid cymryd y cyfle mor fuan a phosib gan fod y byd yn newid drwy’r amser. Yn 2001 roedd sefydlu papur dyddiol newydd yn ychydig o anachronism gyda dyfodiad y we, a mae’r syniad hyd yn oed yn fwy gwallgo heddiw.

Erbyn hyn, mae cylchgrawn Golwg yn sôn am sefydlu gwefan newyddion dyddiol. Sgwn i a fydd hwn yn gweld golau ddydd cyn diwedd y ddegawd?

Postiwyd yn Newyddion, Y We | 5 Sylw

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2007

Dwi newydd greu tudalen ar gyfer gwe-gamera sy’n edrych allan ar ganolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r olwyn fawr yn rhan o atyniadau Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd fydd yn agor fory. Mae’r llun yn adnewyddu bob munud yn otomatig, ond mi fydd yr olygfa yn well ar ôl 7 o’r gloch pan fydd goleuadau’r swyddfa yn mynd allan.

Gwyliwch yma

Postiwyd yn Hwyl, Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2007