Ymbarel marw ar y ffordd

Yn yr wythnos ddiwethaf mae wedi bod ychydig o antur wrth fynd i’r gwaith drwy’r gwynt a’r glaw. I ddechrau roedd rhaid penderfynu os oedd hi’n werth defnyddio ymbarel a brwydro yn erbyn y gwynt neu wisgo o’ch corryn i’ch sawdl mewn waterproofs. Wedyn mae angen osgoi yr holl byllau dŵr, lle mae’r gwteri wedi gorlifo. Mae gyrrwyr sy’n saff yn eu ceir clyd yn hoff o yrru ar gyflymder reit drwy ganol rhain er mwyn chwistrellu dwr ar draws cerddwyr ar y palmant.

Roedd y siwrne byr ar y trên yn reit syml, os oedd y gwasanaeth ar amser. Wrth gyrraedd orsaf Cathays wedyn roedd sialens arall, gan fod pwll o ddŵr wedi casglu wrth bont y rheilffordd. Felly i groesi’r bont roedd rhaid neidio ar cwpl o gerrig yng nghanol y dwr er mwyn cyrraedd y grisiau.

Bore ‘ma wrth gerdded lawr Plas y Parc roedd dinistr y nosweithiau cynt yn amlwg – dail, brigau, y mes a’r moch coed. Ond yn bennaf.. yr ymbarels marw yn gorwedd yn y gwter. Fe wnes i gyfri 14 o ymbarels rhacs wedi eu taflu o’r neilltu fel hen dedi bêr.

Roedd hi’n rhy wyntog i Olwyn Fawr Caerdydd neithiwr hefyd – fe gaeodd am wyth.

Postiwyd y cofnod hwn yn Bywyd. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Ymbarel marw ar y ffordd"