Rhwydwaith treftadaeth

Dros y flwyddyn diwetha’ rwy’ wedi bod yn gweithio ar brosiect sy’n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae’r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i’w wneud yn yr ardal a llefydd i aros.

Rôl fach oedd gen i yn yr holl beth – rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a’u cysylltu i’r we. Gan mai y cynghorau lleol sy’n darparu’r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae’r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo. Mae’r cyfrifiadur yn rhedeg dim byd mwy clyfar na Windows XP a porwr arbennigol sy’n atal pobl (wel, plant) rhag ffidlan gyda’r peth. O leia dyna’r theori.

Roedd y teulu Griffiths o gyfres teledu’r Coal House yno yn eu dillad o’r cyfnod oedd yn helpu’r awyrgylch. Wnaethon nhw grybwyll y ffaith fod cyfres newydd o’r Coal House ar y gweill. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn, araith fer gan gyfaddef nad oedd wedi gweld y Coal House a plîs allai’r BBC ddanfon “CDs” ato. Dechrau da.

Heblaw am y lansiad, y peth pwysig oedd y ‘cyfleon lluniau’ i bob un o’r partneriaid sy’ wedi cyfrannu i’r prosiect. Roedd y teulu yn amyneddgar iawn wrth dynnu lluniau am hanner awr ond mae nhw’n edrych fel petai nhw’n mwynhau y sylw. Wrth sefyll gyda nhw yn y ‘bwffe’ nes ymlaen mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi blino am siarad am eu profiad 5 mis yn ddiweddarach!

Postiwyd y cofnod hwn yn Gwaith, Hanes. Llyfrnodwch y paraddolen.

3 Responses to "Rhwydwaith treftadaeth"