Undeb Rygbi Cymru a’r Iaith

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg. Mi fydd yn rhaid gweld os yw’r addewidion yn cael eu gwireddu ond maen nhw bell ar ei hôl hi.

Fe wnaeth cyd-weithiwr i mi cael trafodaethau gyda nhw 9 mlynedd yn ôl ynglyn a adeiladu gwefan fyddai wedi bod a cynllun dwyieithog (sydd yn ddi-bwynt braidd os nad yw cwsmer yn fodlon cyfieithu’r cynnwys). Os ydyn nhw am newid agwedd o ddifri nawr, efallai yr hoffen nhw roi cynnig i brynu urc.co.uk oddi wrthon ni? Mi fyddai’n arbed ni rhag cael ymholiadau di-ri am yr ‘United Reform Church’.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Newyddion. Llyfrnodwch y paraddolen.