S4C mewn manylder uwch

Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.

Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 – heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.

Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn HD?

Postiwyd yn Newyddion, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar S4C mewn manylder uwch

BBC Cymru oddi ar yr awyr

Wel mae hyn yn esbonio pam fod sianeli’r BBC wedi diflannu o Freeview heddiw. O’n i’n dechrau poeni fod rhywbeth wedi digwydd i fy mocs digidol am fod pob sianel BBC wedi eu nodi yn ‘scrambled’. Er dwi ddim yn deall pam y ddylai problem yng Nghymru effeithio sianeli fel BBC News.

Mae’n ddefnyddiol iawn fod hi’n bosib gwylio’r sianel newyddion ar y we (ac yn fuan, sianeli eraill y BBC hefyd). Mae’r sianeli lawr ers 3 awr nawr felly mae’n rhaid nad yw’r broblem yn hawdd i’w ddatrys. Mae’r sianeli analog dal ar yr awyr ond wrth gwrs mi fydd y rhain yn cael ei troi i ffwrdd yn 2009-2010. Mae’n siwr fydd yna nifer o gwestiynau i’w gofyn ynglyn a’r drafferth, yn enwedig pam nad oes system wrth gefn er mwyn sicrhau fod rhyw fath o wasanaeth yn bodoli.

Postiwyd yn Radio, Teledu | Sylwadau wedi eu Diffodd ar BBC Cymru oddi ar yr awyr

Diwrnod y Glec fawr

Dim ond 3 diwrnod sydd i fynd nes y bydd arbrawf yr LHC yn cychwyn yn CERN. Mi fydd yr arbrawf yn ail-greu y sefyllfa oedd yn bodoli ar ddechrau’r bydysawd (gyda ffracsiwn lleiaf o’r egni mae’n rhaid dweud).

Fydda’i ddim yn y gwaith y diwrnod hwnnw, felly dwi’n meddwl fydda’n dilyn y diwrnod gyda’r rhaglenni arbennig drwy’r dydd ar Radio 4.

A dyma fideo bach difyr i esbonio’r holl beth mewn 5 munud.

Postiwyd yn Fideo, Gwyddoniaeth | 3 Sylw

Geoffrey Perkins

O’n i’n drist iawn i glywed fod Geoffrey Perkins wedi marw mewn damwain car yn Llundain. Roedd ei waith ar y gyfres radio Hitchiker’s Guide yn esiampl perffaith o sut i gynhyrchu drama fodern ar y radio, ac yn torri tir newydd o ran cyfuno cerddoriaeth ac effeithiau sain gyda’r deialog. Bu farw Douglas Adams yn llawer rhy ifanc a mi fydd marwolaeth cynnar Geoffrey Perkins yn golled mawr i fyd comedi hefyd.

Postiwyd yn Newyddion | 1 Sylw

Croeso i wallau gweinydd Cymru

A peth arall… Dros y flwyddyn ddiwetha, mae gwefannau Croeso Cymru wedi cael ei ail-wampio yn raddol bach. Cwmni o Awstralia oedd yn gyfrifol am y brif wefan o Gorffennaf 2002 ymlaen ond nawr mae’r gwaith wedi mudo nôl i gwmni o Gymru. Mae hyn yn ‘beth da’.

Beth sydd ddim mor dda yw’r ffaith fod y wefan yn torri mor hawdd. Dyma ges i wrth chwilio am lety yng Ngheredigion:

Gwall Croeso Cymru

Braidd yn siomedig, yn enwedig gan fod datblygwyr cwmni Box o Gaerdydd yn arbennigwyr ar XML, yn ôl pob son.

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Croeso i wallau gweinydd Cymru