Cerddoriaeth Cymraeg a breindaliadau

Ers 2007 mae’r cwmni sy’n casglu breindaliadau cerddoriaeth ar ran cyfansoddwyr – ‘PRS for Music’ wedi bod yn torri’r taliadau ar gyfer cerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar Radio Cymru; cam oedd yn bygwth bywoliaeth nifer o gyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg. Fe ffurfiwyd mudiad ‘Y Gynghrair’ gan y diwydiant yng Nghymru i ymateb i ac ymladd yn erbyn y newidiadau.

Fe gomisiynwyd adroddiad i edrych ar y posibilrwydd o greu corff Cymreig i gasglu breindaliadau. Awduron yr adroddiad yw Arwel Elis Owen a Deian ap Rhisiart a mae’r adroddiad nawr wedi ei gyhoeddi ar wefan Y Gynghrair.

Mae’r adroddiad yn argymell sefydlu corff newydd i Gymru fel dewis amgen i’r PRS.

Yn yr adroddiad, nid yw S4C na’r BBC yn gweld angen am gorff arall gan ddweud fod y sefyllfa bresennol gyda’r PRS yn foddhaol a fod llawer o waith wedi ei wneud ar systemau er mwyn hwyluso’r defnydd o gerddoriaeth ar rhaglenni’r sianel.

Mae’r adroddiad yn cydnabod hynny drwy ddweud “Mae ymateb ac agwedd BBC Cymru a S4C tuag at y corff yn mynd i fod yn allweddol“.

Sgwn i sut fydd pennaeth dros-dro y sianel (rhywun o’r enw Arwel Elis Owen) yn ymateb i’r adroddiad felly?

Postiwyd yn Cerddoriaeth | 2 Sylw

Rhaglen creu rhaglenni

Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld.

Mae’r teclyn yn creu syniadau ar gyfer rhaglen, ar hap, gan ddefnyddio cronfa ddata helaeth. Os ydych chi’n gynhyrchydd, efallai bydd hwn yn gymorth i chi feddwl am raglenni rhad wrth i’r toriadau ddod i mewn flwyddyn nesa.

Braidd yn ‘hit and miss’ yw hi, ond nawr ac yn y man mae’n dangos awgrym ar gyfer rhaglen fyddai’n berffaith ar gyfer gwylwyr S4C.

Os ydych chi am awgrymu unrhyw welliannau neu ychwanegu unrhyw wybodaeth i’r gronfa ddata, dwedwch wrtha’i isod!

Ewch ati i greu rhaglenni!

Postiwyd yn Cyfryngau, Teledu | Tagged | 5 Sylw

Brwydr y ffonau clyfar

Mae gan y BBC stori heddiw am gynnydd sylweddol yng nghwerthiant ffonau HTC. Dwi wedi sylwi ar lawer o mwy o bobl yn defnyddio ffonau Android gan HTC, yn enwedig merched. Yn ein swyddfa ni, mae iPhone gan bedwar dyn, a’r HTC Desire gan dri menyw ag un dyn (ac un arall ar y ffordd).

Ar y trên hefyd dwi’n sylwi fwy o ferched yn defnyddio ffonau HTC. Oes patrwm yma? Dwi’n amau fod e rhywbeth i wneud a diwylliant ‘macho’ cwmni Apple. Mewn rhyw ffordd ryfedd mae nhw wedi cymryd drosodd o Microsoft fel ‘bwli’ y byd cyfrifiadurol. Mae personoliaeth y pennaeth Steve Jobs i’w wneud a hyn dwi’n siwr ond dwi’n credu fod y ffordd mae Apple yn marchnata hefyd yn apelio fwy at ddynion.

Wrth ryddhau cynnyrch newydd mae Apple yn creu ‘râs’ lle mae cyfrinachedd yn bwysig i ddechrau gyda leaks o wybodaeth tactegol. Mae hyn yn creu cystadleuaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n arwain at un diwrnod ‘mawr’ lle mae rhaid ymladd i fod y cynta yn y ciw i brynu’r teclyn newydd. Mae hyn yn apelio at gîcs a gîcs gwrywaidd yn sicr.

Heb fod yn rhy ystrydebol dwi’n credu fod merched yn hoffi cymharu wrth siopa a ddim mor frwd dros fod y cynta i’r felin, a bod yn early adopter. Mae yna ddigon o gîcs benywaidd hefyd a mae nhw hefyd yn edrych ar y specs a’r dechnoleg tu ôl i declyn, ond does sdim rhaid fod yn rhan o’r ‘râs’.

Dim ond damcaniaeth yw’r uchod, ond mi fyddai’n ddiddorol iawn gweld unrhyw ystadegau ar y defnydd o ffonau clyfar gan y ddau ryw.

Postiwyd yn Newyddion, Technoleg | 3 Sylw

Hei Mici

Mae Mici Plwm wedi cysylltu â fi i ychwanegu gwybodaeth i Curiad ynglŷn a’i hen fand ‘Poer y Wiwar’.

Na, dyw e ddim mewn gwirionedd, er mae’n ymgais digon da fel oedd rhaid i mi edrych dwywaith. Dwi’n amau mai’r boi tu ôl i ffug Mici ar Twitter (a Jonsi ‘fyd) wnaeth ei ddanfon.

Yn hytrach na’i ychwanegu, dwi am gofnodi’r manylion i chi fan hyn!

Poer y Wiwar

Aelodau:

  • Eifion Pennant Jones (Jonsi) – prif lais
  • Dewi Llwyd – gitâr flaen
  • Mici Plwm – bâs
  • Iestyn Garlick – drymiau

Disgyddiaeth:

Blaswch Poer Y Wiwar – 1p

Disgrifiad:

Oeddan ni’n hiwj yn Fiji, ma nhw’n fyr iawn fana.

Postiwyd yn Comedi | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Hei Mici

Prynu MP3s Cymraeg

Fe wnaeth Chris Cope bwynt da ar Twitter, sef fod hi’n anodd dod o hyd i MP3s Cymraeg ar lein. Mae nifer o wasanaethau sy’n werthu cerddoriaeth ar ffurf MP3 a mae rhai yn well na’i gilydd. Mae’n anodd dod o hyd i gerddoriaeth Cymraeg ar rhai gwasanaethau heb wybod enw’r band o flaen llaw.

Mae system gaeëdig ond pwysig iTunes yn enghraifft dda o hyn. Yn ôl beth dwi’n gallu gweld does dim posib i labeli dagio eu caneuon neu albymau gyda iaith.

Dwi wedi bod yn ymchwilio i hyn ers tipyn felly mae’n werth rhannu y wybodaeth dwi wedi casglu yn barod. Mae gwasanaeth Spotify yn arbennig o dda am ei fod yn bosib chwilio yn ôl label. Dwi wedi creu rhestr fer o ddolennau defnyddiol fan hyn.

Dwi’n falch o dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am fwy o labeli.

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 2 Sylw