Archifau Categori: Y We
Cwangos – gêm drosodd
Yfory fe fydd nifer o gwangos yng Nghymru yn dod i ben a felly fe fydd eu gwefannau hefyd yn cau lawr a dod yn rhan o wefan fonolithig y Cynulliad. Yn y tymor byr mi fydd hyn yn golygu … Continue reading
Diwedd R-bennig?
Yn ôl eu gwefan, mae Recordiau R-bennig o Fôn wedi dod i ben ar ôl 15 mlynedd o ryddhau recordiau gwahanol ac unigryw. Fe ddes i ar draws y label gynta tua 1990 neu 1991 pan glywes i record A5 … Continue reading
Google Mawrth
Mae Google wedi defnyddio ei technoleg mapiau ar gyfer y blaned Mawrth – fe lansiwyd ddoe i goffau am y seryddwr Percival Lowell. Gwych.
Y Syniad Mawr Nesaf
Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu. Continue reading
Sioni’r Sbwng
Mae Bwrdd yr Iaith wedi lansio ymgyrch bach heddiw o’r enw ‘Kids soak it up‘ (yr iaith hynny yw). Mae’r deunydd hyrwyddo yn defnyddio cymeriad bach rhyfedd – dwi ddim yn siwr beth yw ei enw ond dwi am ei … Continue reading