Diwedd R-bennig?

Yn ôl eu gwefan, mae Recordiau R-bennig o Fôn wedi dod i ben ar ôl 15 mlynedd o ryddhau recordiau gwahanol ac unigryw. Fe ddes i ar draws y label gynta tua 1990 neu 1991 pan glywes i record A5Gadael/Colli Mynadd‘ yn cael ei chwarae ar sioe Nia Melville ar Radio Cymru. Ac o hynny ymlaen fe ddes i yn ffan pennaf o’r label a wnes i ymgais (aflwyddiannus) i gasglu unrhywbeth yr oedden nhw’n cyhoeddi.

Profiad rhyfedd oedd cysylltu gyda Johnny R, perchennog y label, yn y dyddiau cynnar. Fe wnes i ddanfon arian yn gofyn am gopi o rhyw record (7″ Amser y Mis efallai) ynghyd a llythyr gwirion (fel bachgen ychydig yn ‘wahanol’ yn fy arddegau gyda lot o bethau rhyfedd yn mynd ymlaen yn fy meddwl). Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach fe ges i’r pres yn ôl, dim record ond llythyr yn cynnwys rant hir – roedd Johnny yn fy nghyhuddo o fod yn ‘sbei’ o gwmni Cytgord. (Paranoia Cefn Gwlad)

A Sbei fues i o hynny ymlaen wrth i mi lythyru gyda’r dyn hynod yma o Walchmai a danfon fy ymgeision pitw i gynhyrchu cerddoriaeth arbrofol efo dim byd mwy na samplyr 8-bit a chwaraewr casét.

Mwy o atgofion nes ymlaen efallai – dim ond gobeithio y byddwn ni’n clywed eto gan Mr. R (a nid jyst ar y blog yma!) yn y dyfodol.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cerddoriaeth, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.

4 Responses to "Diwedd R-bennig?"