Archifau Categori: Cyfryngau
Diwrnod yn y bae
Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. … Continue reading
Gwasanaeth tân De Cymru
Dyma wefan Gymraeg Gwasanaeth Tân De Cymru (diweddarwyd ar 14 Hydref 2002). Ffacin iwsles.
Ebost y Mentrau
Mae’n boenus weithiau edrych ar y gwefannau Cymraeg sy’n cael ei cynhyrchu gan un dyn yn ei stafell gefn gyda chopi o Dreamweaver a dim clem am ddylunio. Mae gwefannau y Mentrau Iaith yn arbennig o ofnadwy. Dyw’r ffaith fod … Continue reading
Seren radio
Dwi wedi bod yn gwrando ychydig ar STAR Radio wythnos yma, gorsaf radio gymunedol yng Nghaerdydd. Mi fydd y sioeau i gyda ar gael yn fformat MP3 ar ôl eu darlledu. Mae nifer o bethau difyr yno ynghyd ac ambell … Continue reading
Ffilmiau Cymraeg ar DVD
Bu cryn drafodaeth yn ddiweddar gan faeswyr am ba raglenni Cymraeg o’r gorffennol fasen nhw’n hoffi ei weld yn cael eu ryddhau ar DVD. Dyw nifer fawr o’r cynigion ddim yn realistig – er y byddai’n ‘neis’ gweld rhai o … Continue reading