Bu farw fy nhad bythefnos yn ôl. Roedd ei iechyd wedi bod fregus ers rhai blynyddoedd ond daeth y diwedd yn sydyn. Aeth mewn i’r ysbyty ar y dydd Gwener, a’i drin am niwmonia. Yr wythnos wedyn, dathlodd ei ben-blwydd yn 77 mlwydd oed yn yr ysbyty. Nid oedd y driniaeth gwrthfioteg yn gweithio ac nid oedd unrhyw arwydd o wella. Gofynnodd Dad i’r teulu agos ddod i fewn ar y dydd Iau ac fe’i symudwyd i stafell breifat. Wedi i bawb gyrraedd mynnodd i ni gyd gymeryd wydraid o Gin a Tonic. Cymerodd lymaid a gwnaeth lwncdestun i’n dyfodol. Caeodd ei lygaid ac o fewn chwarter awr aeth i gysgu.
9 mlynedd yn ôl cafodd ddiagnosis o Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint. Mae’r afiechyd creulon hwn yn golygu bod creithiau yn ffurfio o fewn yr ysgyfaint sy’n lleihau’r cyfaint o ocsigen sy’n cael ei basio i’r gwaed. Does dim achos amlwg i’r afiechyd hwn a does dim modd ei wella, er fod ymchwil yn parhau. Wedi’r diagnosis cychwynodd fy nhad gymryd tabledi Pirfenidone, cyffur arbrofol ar y pryd – bwriad hyn oedd arafu’r creithio yn yr ysgyfaint. Dros y blynyddoedd, cafodd adolygiadau iechyd cyson a sylw arbennig gan arbenigwyr a nyrsys o uned afiechydon yr ysgyfaint yn Ysbyty Llandochau.
Ganwyd fy nhad yn 1947 a’i enw llawn oedd David Russell Thomas. Doedd e ddim yn or-hoff o’r ffaith mai enw Saesneg oedd ganddo ond dyna oedd y ffasiwn ar y pryd. Er hynny Cymraeg oedd ei famiaith a chafodd fagwraeth mewn cymuned Gymreig wledig a chlos yng Nghraig Cefn Parc a Phontlliw. Russell neu Russ oedd e i’w deulu a ffrindiau. Mae yna nifer o gyndeidiau yn y teulu wedi eu cofnodi ar dystysgrifau geni fel ‘David’ er mai Dafydd neu Dai byddai pobl yn eu galw nhw ar lafar. A dyna sut cefais i’r un enw.
Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac yna MA mewn gwleidyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Essex. Treuliodd flwyddyn yn y Sudan gyda V.S.O. yn dysgu Saesneg mewn ysgol yn Shendi. Cyfarfu Mam yn 1970 ac fe briodon nhw yn 1972. Aeth i weithio fel gwas sifil yng Nghaerdydd yn dilyn ôl-traed ei ewythr a mentor, Handel Clement. Treuliodd gyfnod yn Llundain ac yn ddiweddarach gyda’r adran amaeth yng Nghaernarfon ac Aberystwyth. Nid oedd bob amser yn brofiad dymunol gweithio o dan sawl Ysgrifennydd Gwladol i Gymru yn yr 1980au a 1990au. Ond cafodd y pleser o weithio gyda Ron Davies o 1997 i 1998 cyn dod yn rhan o’r cyfnod cyffrous wrth sefydlu y Cynulliad yn 1999. Cymerodd ymddeoliad cynnar yn 2003 ac felly cafodd gyfnod hir a hapus o ymddeoliad, er nad oedd byth yn segur.
Pan gychwynodd y pandemig ym mis Mawrth/Ebrill 2020 rhybuddiwyd fy nhad gan ei ddoctoriaid byddai dal COVID yn hynod beryglus iddo. Arweiniodd hyn at gyfnod anodd lle roedd yn rhaid iddo gymeryd pob gofal ac osgoi unrhyw gysylltiad agos â phobl eraill. Nid oedd pobl yn cael dod i’r tŷ ac roedd yn rhaid trefnu siopa bwyd ar lein. Roedd datblygiad y brechlynnau wedi ennyn rhywfaint o hyder ond cymerodd dros ddwy flynedd i fy nhad dderbyn cael teulu agos nôl yn y tŷ, unwaith iddynt gymryd prawf COVID. Yn 2022 dathlodd fy rhieni eu priodas aur (yn yr ardd)
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Dad y boddhad mawr o ymweliadau cyson gan ei ŵyr Gwion, yn ei arddegau erbyn hyn. Roedd wrth ei fodd yn trafod gyda Gwion am ei ddiddordebau fel Ffiseg, y gofod a gemau fideo a dysgodd sut i chwarae gemau ar ei benwisg VR.
Un sgîl-effaith ffodus o’r cyfnodau o ‘warchae’ adref oedd y cyfle i fy nhad ymchwilio ac ysgrifennu. Roedd eisioes wedi casglu swmp o gwybodaeth am ei goeden deulu ac aeth ati i ysgrifennu hanes manwl am y teulu ar ei ochr ef ac ochr Mam. Ysgrifennodd hanes ei yrfa ac ei fywyd a gosododd hyn allan ar y cyfrifiadur gan gynnwys lluniau perthnasol o’i archif. Argraffwyd llyfrau allan o’r dogfennau hyn drwy gwmni ar y we, gyda chopi yr un yn mynd i’r teulu agos. Rhyw fis cyn ei farwolaeth, cwblhaodd y fersiwn diweddaraf o’i hunangofiant fyny at mis Mawrth 2024, trysor gwerthfawr i ni fel teulu.