Mewn ymateb i gwestiwn gan Nwdls ar Twitter, dyma fy nghynigion i am wirebau y we Gymraeg.
1. Dyw postio lluniau o arwyddion Scymraeg byth yn mynd yn hen.
2. Mae unrhywbeth newydd o gwbl sy’n cael ei lansio yn cael ei ddisgrifio fel “y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg”
3. Os yw unrhywun yn cyhoeddi barn dadleuol, mae’n llawer haws beirniadu teipos neu safon yr iaith yn lle cynnig ymateb rhesymol.
4. Does neb yn darllen Golwg 360 a meddwl “dyna ddiddorol, o’n i ddim yn gwybod hynny o’r blaen”.
5. Er mai dim ond 0.00007% o boblogaeth y byd yw’r Cymry Cymraeg, ni’n synnu o hyd fod yna bobl eraill yn y byd sy’n malio dim am y Gymraeg a’i ddiwylliant.
6. Mae pawb yn hoffi lladd ar S4C, ond yn troi’n amddiffynnol os welwn ni Sais yn gwneud yr un fath.
7. Uchelgais unrhyw Gymro ar Twitter yw cael eich ail-drydar gan Dafydd Elis-Thomas (os nad yw hynny’n digwydd, fe wnaiff unrhyw actor o Bobol y Cwm y tro).
8. Yr hiraf y mae dadl am yr iaith yn parhau, y mwya tebygol yw hi y bydd rhywun yn crybwyll Saunders Lewis (neu Gwynfor Evans).
9. Mae pob trafodaeth yn tueddu tuag at begynnau, rhwng gogledd/de, dwyrain/gorllewin, trefol/cefn gwlad, iaith gyntaf/ail iaith, gwerinol/diwylliedig, heriol/sefydliadol, technolegol/traddodiadol.
10. Mae gwefannau Cymraeg yn cael eu lansio gyda heip mawr, cyn marw’n dawel ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl i’r arian cyhoeddus redeg allan.
Gan Rhodri ap Dyfrig 24 Medi 2013 - 11:15 pm
Sylw Cyntaf o’i fath yn y Gymraeg!! (ar y blog hwn…)
Lecio’r ‘Rheol Saunders’ – ma na hefyd Rheol Godwin-Saunders ar gyfer y we Saesneg yng Nghymru, mae trafodaeth wleidyddol wedi taro pwynt dim troi nôl pan ma nashi-basher yn honni bod Saunders yn ffasgydd.
Cymysgedd tocsig o 3 a 6: bod Twitterati Cymraeg yn casau puryddion iaith ; ond yn neidio ar unrhyw un wrth Gymraeg sydd ddim yn gallu sillafu Cymraeg perffaith.
Gan Carl Morris 24 Medi 2013 - 11:24 pm
Mae’n hen bryd i mi argraffu’r sticeri Cyntaf O’i Fath Yn Y Gymraeg.