Mae cwmni Bws Caerdydd wedi lansio ‘cerdyn clyfar’ heddiw gyda’r enw amheus ‘iff’ (tudalen Iff ar eu gwefan saesneg yn unig).
Yn lle talu bob tro i fynd ar y bws mae’n bosib defnyddio’r cerdyn. Mae’n bosib llwytho’r cerdyn gyda arian o flaen llaw neu ar y bws, hyd at gyfanswm o 50 punt. ‘Does dim byd newydd iawn yn hyn – mi fydd llawer yn gyfarwydd a cherdyn Oyster yn Llundain a mae yna gynlluniau tebyg mewn nifer o ardaloedd yn Lloegr.
Y peth sy’n fy synnu i yw fod yn rhaid defnyddio arian ar y bws i ychwanegu at y credyd neu fynd i swyddfa Bws Caerdydd yn Wood Street. Dim sôn am dalu ar lein na system sy’n ychwanegu yn awtomatig fel sydd ar gerdyn Oyster. Mae’n debyg y bydd pobl sy’n talu am docyn tymor drwy ddebyd uniongyrchol yn cael credyd wedi ei ychwanegu i’r gerdyn ond ‘dyw hynny ddim gwerth i deithwyr achlysurol.
Yn y gwaith rydy’ ni wedi bod yn gweithio ar nifer o wefannau ‘top-up’ i gwmniau bysus o Loegr – yn wir mae’n rhan sylweddol o’n gwaith yn ddiweddar. ‘Dyw e ddim yn syml mae’n wir, a mae tipyn o gymlethdodau wedi codi yn ein gwaith ni. Er hyn, mae rheoli cyfrifon a thalu am bethau fel hyn ar lein yn nodwedd reit sylfaenol i unrhyw wasanaeth ers blynyddoedd maith.
Beth yw hi nawr.. bron yn 2011? Croeso i Gaerdydd.. dinas ar flaen y gad.
Gan Rhys 7 Hydref 2010 - 11:10 am
Roedd erthygl yn Guardian Money ar y penwythos yn son am pa mor agos ydan ni o bosib at contactless payments, felly mae’n bosib bydd y cardiau yma’n ddwieth yn fuan ta beth (er efallai o fwy o werth i blant a phobl nad oes ganddynt gyfrifon banc).
Gan dafydd 7 Hydref 2010 - 11:39 am
Dwi’n amheus os fydd hynny o ddefnydd i gwmniau bysus/trenau. Mae angen iddyn nhw gael system integreiddiedig ar gyfer ticedi tymor yn ogystal a tripiau unigol. Felly mae’n fanteisiol iddyn nhw gadw rhestr ganolog o deithwyr gyda chyfrifon wedi ei gysylltu gyda cerdyn. Mae hyn yn gwneud hi’n haws i gynnig disgownts, ad-daliadau, cynigion arbennig ayyb.
Er enghraifft fydde cerdyn clyfar yn gallu cael ei ddefnyddio gan blant, myfyrwyr, oedolion a phensiynwyr a fydde’n bosib gweithio allan y tâl yn awtomatig. Mae defnyddio taliad ar gerdyn yr un fath a defnyddio arian parod a felly fe fyddai’r un problemau yn bodoli – mi fyddai dal angen system o gardiau ar wahan ar gyfer myfyrwyr a phensiynwyr.
Gan Carl Morris 7 Hydref 2010 - 12:07 pm
Dw i’n methu credu bod nhw wedi anghofio Oyster ac enghreifftiau eraill. Felly, faint fasai system arlein (gyda diogelwch) yn costio, ydy e’n rhy drud?
Fydd e’n bosib ychwanegu taliadau arlein yn y dyfodol? Sa’ i di weld nhw eto.
Gyda Oyster ayyb ydyn nhw yn cadw’r gweddill ar y cerdyn neu yn gronfa ddata canolog? Mae’n dibynnu ar hunaniaeth unigryw ar bob cerdyn hefyd – dw i’n cymryd.
Gyda llaw yn mathematig mae “iff” yn golygu “os a dim ond os” (“necessary and sufficient condition”).
Gan Cerdyn bws Iff yng Nghaerdydd | Hacio'r Iaith 7 Hydref 2010 - 12:09 pm
[…] http://da.fydd.org/blog/2010/10/06/cerdyn-bws-iffy/ […]
Gan dafydd 7 Hydref 2010 - 12:26 pm
‘Dyw rhyngweithio gyda Oyster ddim yn gymaint o broblem technegol. Mae’r cardiau o’r math yma i gyd yn cydffurfio gyda safonau rhyngwladol fel ITSO.
Os oeddech chi eisiau cerdyn o’r fath i allu weithio drwy wahanol gwmniau teithio, yna mae hynny yn broblem fasnachol a gwleidyddol yn fwy na thechnegol. Hynny yw mi fyddai angen cytundebau masnachol mewn lle rhwng cwmniau a dwi ddim yn gwybod os ydi hwn yn digwydd o gwbl yng nghyd-destun Oyster. (oes yna enghraifft?)
Os oedd y Cynulliad yn creu un cerdyn ar gyfer Cymru, yn amlwg fyddai rhaid iddyn nhw ddod a Arriva a’r holl gwmniau bysus yng Nghymru at eu gilydd a chael cytundebau. Ond mae’n haws iddyn nhw wneud hynny na llusgo Oyster i fewn hefyd.
Dyw ychwanegu taliadau ar lein nes ymlaen ddim yn broblem fawr , ond mae’n dibynnu llawer iawn ar y cwmni sy”n darparu’r system ‘cefn swyddfa’ i brosesu’r cardiau.
Mae’r gost yn dibynnu yn fawr ar pa mor aeddfed yw’r system hynny – rydyn ni wedi gweithio gyda systemau sy’n dal i gael eu datblygu a mae hynny’n boen – er enghraifft APIs yn newid drwy’r amser, pethau bach yn y system yn newid a neb yn dweud.
Gan cardiffblogger 11 Hydref 2010 - 11:52 am
Mae angen i Bws Caerdydd dod o hyd i bartner dechnoleg mwy proffesiynol. Mae’r wefan “IFF” yn ofnadwy – mae’r ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y cerdyn yn edrych fel gaeth ei datblygu gan rywun a gychwynnodd raglennu dim ond ychydig ddyddiau yn ôl; dim syndod nad ydynt yn gwybod sut i integreiddio taliadau ar-lein!
Rwyf hyd yn oed wedi i dynnu sylw at broblem iddynt – byddai’r faes “dyddiad geni” yn ddilysu dyddiadau Americanaidd yn unig. Di-raen neu beth!