Mi wnes i sôn yn rhan 1 mod i wedi archebu cysylltiad band llydan newydd gyda Be. Felly dyma ail ran yr antur.
Mae cwmni Be yn darparu caledwedd eu hunain sy’n cael ei fenthyg i’r cwsmer (mae’n rhaid ei ddanfon yn ôl os ydych chi’n canslo’r gwasanaeth). Ychydig yn od efallai, ond roedd y cwmni yn un o’r rhai cynta i ddarparu gwasanaeth ADSL2+ ac ar y pryd doedd dim llawer o galedwedd ar gael oedd yn cefnogi’r safon yna. Erbyn hyn mae yna ddigon, felly does dim angen defnyddio caledwedd y Be mewn gwirionedd.
Mewn llai na wythnos ar ôl archebu mi ges i becyn yn y post yn cynnwys yr holl offer oedd angen:
Mae’r pecyn yn cynnwys modem/llwybrydd Be Box, dau hidlydd ADSL, gwifren i gysylltu’r bocs a’r ffôn, gwifren ethernet i gysylltu a chyfrifiadur a CD yn cynnwys meddalwedd.
Fel ddwedes i does dim angen defnyddio y caledwedd yma ond mae’n gwerth cael pethau i’w weithio gyda’r offer yma gynta am mai dyma mae Be yn gefnogi’n ‘swyddogol’. Mae’n bosib cysylltu’ch cyfrifiadur i’r ‘Box’ drwy wifren Ethernet neu yn ddi-wifr.
I esbonio’r cefndir – mae dau llinell ffôn yn y tŷ (ar ddau rif ffôn gwahanol) ers dyddiau y perchennog gwreiddiol oedd yn rhedeg busnes o’r tŷ. Cyn 2002 roeddwn i’n ddefnyddio yr ail linell ar gyfer cysylltiad deialu-fyny fel mod i’n gallu cysylltu am oriau maith heb amharu ar y prif linell. Wedyn fe newidiwyd y lein yna i ADSL.
Dwi wedi gosod y bocs eu hunan nesa at y brif llinell ffôn, felly er mwyn hwylustod, wnes i ddefnyddio y cysylltiad di-wifr ar gyfrifiadur fyny llofft.
I ddechrau roedd angen cysylltu a’r bocs er mwyn gosod y manylion cysylltu. Er mwyn gwneud hynny roedd rhaid newid cyfeiriad IP y cyfrifiadur er mwyn bod yn yr un rhwydwaith a’r bocs. Mae gen i gysylltiad band llydan yn barod ar linell ffôn arall, wedi ei gysylltu drwy rwydwaith Ethernet, felly roedd hynny yn cymlethu pethe.
Yn y diwedd wnes i benderfynu cadw’r cysylltiad Ethernet fel yr oedd e a chysylltu yn uniongyrchol i focs Be yn ddi-wifr. Roedd hi’n bosib gallu gweld y ddau gysylltiad o’r un cyfrifiadur ond dim ond un sy’n cael blaenoriaeth (ar y cyfrifiadur penodol yma yn rhedeg Windows XP mae’n weddol hawdd i newid y blaenoriaeth).
Y peth nesa felly oedd rhoi fy manylion i fewn i’r bocs oedd yn broses weddol syml ac yna cysylltu! A dyna lle ddechreuodd y problemau.
I ddechrau fe ges i gysylltiad o tua 1Mb/4Mb. O ran cyflymder ‘fyny’ mae hynny’n wych ond dyw’r cyflymder lawr ddim llawer gwell na’r cysylltiad presennol o tua 5Mb. Yn yr oriau nesa fe wnaeth y cysylltiad i Be dorri llawer gwaith ac ar adegau roeddwn i’n un cael cyflymder o llai na 0.5Mb y ddau ffordd. Beth oedd o’i le? Cofiwch mai dyma’r tro cynta i’r linell ffôn yma gael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiad ADSL.
Ar ôl archwilio y prif soced ffôn, wnes i sylwi fod y ‘faceplate’ ddim cweit yn gafael yn sownd yn y brif soced. Fe wnes i dynnu’r peth i ffwrdd a tynhau’r sgriws i gyd a fe aeth popeth nôl i’w le yn dwt. Ar ôl hynny fe ges i gysylltiad o tua 7Mb. Eitha da ond ddim cweit y 10Mb yr oedd Be wedi amcangyfrif.
Ers hynny mae’r cysylltiad wedi parhau i fod yn ansefydlog a dyw e byth yn cadw 7Mb – mae’n disgyn lawr i 1Mb neu lai yn aml. Felly y cam nesaf oedd cysylltu a Be i weld os oes unrhyw broblem ar y lein. Mae nhw wrthi yn profi’r cysylltiad nawr ac yn y rhan nesa dwi’n gobeithio rhannu’r canlyniadau.
Gan Huw Waters 29 Ebrill 2009 - 4:58 pm
Ydych chi wedi ceisio defnyddio’r feistr soced ar y prif linell? H.y. Os wyt yn cymyd y ‘faceplate’ ffwrdd, fydd ne blwg ffôn arall tu fewn (mae’r ‘faceplate’ yn cysylltu syth fewn i’r peth). Bosib bod Be wedi gofyn i chi neud hwn yn barod er mwyn iddynt allu profi’r llinell.
Gan dafydd 29 Ebrill 2009 - 6:55 pm
Do dwi wedi trio y soced ‘prawf’ ond doedd hynny ddim fawr gwell (lot o wallau ar y llinell). Mi fydd gen i ddiweddariad mewn rhan 3 cyn bo hir.