Mae Google wedi lansio gwasanaeth er mwyn creu chwiliad addasedig. Mae wedi bod yn bosib ers tipyn i ddefnyddio Google i wneud chwiliad o fewn eich gwefan eich hun, ond mae hwn yn cynnig mwy o reolaeth dros ba allweddeiriau a safloedd i’w cynnwys neu eu blaenoriaethu.
Dwi ddim yn gweld llawer o fantais eto o ran chwiliadau Cymraeg. Os ydych chi’n chwilio am eiriau Cymraeg neu enwau sy’n ymddangos yn niwylliant Cymraeg yn unig, mi fyddwch chi’n debygol o gael canlyniadau boddhaol o brif wefan Google. Mi allai’r gwasanaeth yma helpu ychydig drwy gyfyngu i set o wefannau Cymraeg o’n dewis ni. Dwi wedi arbrofi drwy greu chwiliad isod, sydd yn chwilio’r We i gyd ond yn rhoi fwy o bwyslais ar rai gwefannau Cymraeg dwi wedi nodi. Y broblem gyda hyn yw fod angen cynnal a chadw y rhestr er mwyn ei gadw’n ddefnyddiol, er mai prif bwrpas technoleg yw gwneud pethau’n haws ac yn fwy otomatig.
Gan Johnny R 2 Tachwedd 2006 - 12:17 pm
Be sy’n neud fi mwyaf paranoid am Google Inc yw y faith fod y CIA ar ol y cwmni i cael holl ymchwiliadau ‘personol’ gan y cwmni. andros o cof ond rwi’n mwy ofalus yn defnyddio google ar safleuoedd eraill na’r safwe swyddogol. mae’r dolen cysyllt braidd angen-ree-di-ol arbyn heddiw. Ond pwy sy’n reoli rhai o’r cwmniau ‘ma. Rwi’n ofn o rhywun fel nic Daifys a Co yn blackmailio fi orherwydd yn y misoedd ddiwethaf rwi wedi teipo fan ”Mirain Haf”, ”Cymal 3”, ”Allan yn Fuan”, ”Nia Melville”, ”Rhys Lloyd”, ”Johnny R/R-Bennig”, ”Keith Best”, ”Andras Millward”, ”Mary Kate and Ashley”, ”y gwely blodau” a ”Diolch byth mae twat fel Aled Glyn Davis wedi mynd o’r BBC”..nath Minging Meinir Gwilym dim yn ymddangos ”Did You mean a crap Act” wedi ymweld!
Ffydd
R