Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi’n credu fod peryg nawr o ddrysu dau fater wahanol, sef cyllido’r sianel a’i chynnwys.
Fe drefnwyd rhaglen arbennig ‘Noson Gwylwyr’ (sydd ymlaen heno) gan S4C ymhell cyn y cynlluniau presennol i gyllido S4C drwy’r drwydded teledu.
Mae ffynhonnell a maint cyllid y sianel yn fater gwleidyddol a mae angen trafodaeth ar wahan ar gyfer hynny, mewn cyd-destun ehangach a phenderfyniad ar bwy sy’n rheoli materion darlledu yng Nghymru. Dwi wedi ebostio S4C i ofyn iddyn nhw beidio trafod y cyllid heno neu o leia gyfyngu ar y drafodaeth hynny.
Beth sy’n bwysig i’r gwylwyr yw beth sydd yn ymddangos ar y sgrîn ac os oes rhaglenni atyniadol sy’n ddifyr a gafaelgar. Pwy bynnag sy’n ariannu S4C mi fydd toriadau yn digwydd beth bynnag a dwi’n sicr fod posib arbed arian mewn nifer o feysydd (mae nifer o fewn y diwydiant wedi sôn am y gwastraff arian sydd wedi bod dros y blynyddoedd).
Mae angen i’r sianel ail-edrych ar sut mae nhw’n comisiynu rhaglenni. Dwi’n credu fod comisiynwyr y sianel a rhai cynhyrchwyr wedi mynd yn ddiog a hunan-foddhaol. Mae hyn yn ddatblygiad naturiol mewn unrhyw gorff sydd yn fonopoli. Does gan S4C ddim cystadleuaeth na chymhelliad allanol i wasanaethu’r gynulleidfa yn well – efallai fod angen edrych am ffyrdd y gall syniadau am raglenni Cymraeg gael eu cynhyrchu tu allan i S4C.
Does dim rheswm o gwbl pam na allai’r Cynulliad ei hun ddechrau sianel deledu ei hunain (heblaw arian a’r cymhelliad gwleidyddol wrth gwrs). Mi fyddai’n ddrud darlledu sianel yn y ffordd draddodiadol (ar Freeview/Sky) ond mae digon o ffyrdd eraill i ddosbarthu cynnwys ar lein fyddai’n cyrraedd cynulleidfa byd-eang gyda mwy o wylwyr potensial na S4C. Does dim rhaid trio creu sianel llinol o 7am-12am, ond yn hytrach rhoi cyfle ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, perfformwyr a phobl greadigol eraill i arbrofi.
Un o fy hoff gyfresi yn y 90au oedd sioe ‘Adam & Joe’ a gafodd ei wneud ar gyllid bach iawn a’i ddarlledu mewn slot ‘arbrofol’ ar Channel 4. Roedd y gyfres yn dibynnu ar greadigrwydd dau unigolyn, syniadau gwych, golygu slic a dim byd mwy na hynny. Oes yna bobl yr un mor greadigol yng Nghymru? Dwi ddim yn gwybod – mae yna rai enghreifftiau prin iawn ar YouTube ond os oedd hi’n bosib rhoi cyngor, arweiniad ac ychydig bach o gymorth technegol mae’n bosib fydden ni’n gwybod yr ateb.
Beth bynnag, fe gawn ni weld heno os ydi S4C wir wedi ei ‘deall hi’ neu a fyddan nhw’n parhau yn yr un rhigol.
Gan Tweets that mention Noson Gwylwyr S4C « daflog -- Topsy.com 25 Hydref 2010 - 7:13 pm
[…] This post was mentioned on Twitter by Dafydd Tomos, Blogiadur. Blogiadur said: Noson Gwylwyr S4C: Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi’n cre… http://bit.ly/bWA528 […]
Gan Carl Morris 26 Hydref 2010 - 1:58 am
Mae’r elfen arbrofol mor bwysig gyda’r rhaglennu – a digidol hefyd.
Dw i’n aros nawr am Gwylwyr ar Clic… Nes i ofyn cwestiwn yn fyw ar y ffôn ond roedd e’n anodd gwrando ar yr ateb ar yr un pryd!
Gan Dewi 14 Tachwedd 2010 - 10:40 pm
1. oes mae pobol greadigol of fewn Cymru…. ers sag yda chin byw yn Pontacanna mae o wedi canu ar y chwi i gael unrhyw siawns o raglen ar S4C (neu Tinopolis TV).
2. gwir dylai ddadl ariannu, rheoli a rhaglenni fod arwahan. Dwi dal ddim yn deall pam nath nhwm cymeryd y £2m cut yn y lle cyntaf- llai na 2%. Na oedd y crachach yn meddwl ei bod nhwn glyfar a deud ‘cant legally give money back’- pathetic ta be. Wan da nin sefyll lot gwaeth. Os fyswn i’n weinidog yn Llundain a gweld y cheek o beidio a roi 2% yn ol, swnin chwalu nhw…. a yn anffodus ma nhwn haeddu fo!.
3. er tydy hyn ddim yn berthnasol, pam ddim yn dod ar S4C fyny ir Gogledd, i Gaernarfon. Does na ddim wir angen cael o lawr fana (heb law am y ffaith bod crachach Pontcanna eisiau fo lawr lon!). Hefyd fy nheimlad i ydy roedd cynnwys cynnar S4C llawer gwell a mwy arbrofol ac roedd rhan helaeth o rheini wedi’i wneud fyny fama.
Dwnim be sydd wedi digwydd ir sianel yn y degawdau diwethaf, mae o wedi chwalu gyda rhaglenni allai ond dweud eu bod nhwn Sh*t.