Fe wnes i sôn mewn cofnod blaenorol ynglŷn a dirywiad ansawdd lluniau S4C. Mae’n eitha anodd disgrifio y newid heb wylio deunydd wedi ei recordio cyn ac ar ôl y newid. Felly dwi wedi creu graff sy’n dangos y newid yn gliriach.
I esbonio’r cefndir yn syml, mae casgliad o sianeli yn cael eu darlledu ar un amlblecs a mae’r lluniau yn cael eu cywasgu er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’r gofod cyfyngedig. Mae cyfradd data (didradd) unrhyw sianel yn newid yn sylweddol gan ddibynnu ar pa mor llonydd neu brysur mae’r llun. Mae pob sianel yn gosod isafswm ac uchafswm ar ei didradd nhw. Mi ddylai hyn sicrhau fod y llun bob amser o safon derbyniol ond heb fod yn farus drwy gymryd yr holl ofod ar yr amlblecs.
Mae’r isafswm ac uchafswm yn amrywio yn ôl pwysigrwydd y sianel fel arfer. Mae llawer o’r sianeli “+1” a sianeli siopa masnachol yn fodlon gweithredu ar ansawdd gwaeth oherwydd nad ansawdd y llun sy’n bwysig.
At y graff felly (cliciwch arno am olwg yn fwy)
Mae’r graff yn dangos sut mai ‘uchafswm’ didradd S4C wedi dirywio ers symud i amlblecs ‘Mux 2’ ar y 9fed o Fedi 2009. Roedd yr uchafswm blaenorol tua 7,000 Kbps sy’n hynod uchel (yn fwy na’r BBC). Dyw hyn ddim yn syndod am fod S4C yn arfer darlledu ar yr amlblecs ‘rhodd’ oedd wedi ei wobrwyo i S4C gan Ofcom fel rhan o ddatblygiad teledu digidol. Ond sylwch fod yr isafswm yn isel – tua hanner y prif sianeli eraill.
Fe wnes i gymryd y mesuriadau yma dros gyfnod o 30 munud ar adegau tebyg o’r dydd am fod y cyfradd yn gallu newid yn sylweddol drwy’r dydd ac yn ystod rhaglen.
Ar ôl 9/9/9 fe ddisgynnodd yr isafswm i tua 500 Kbps, lle mae gan y sianel eraill isafswm o 1,500 Kbps. Yn yr wythnosau diwethaf mae hyn wedi codi yn ôl tuag at 800 Kbps.
Y newid mwya yw fod yr uchafswm wedi disgyn yn sylweddol – mae e nawr o dan 4,000 Kbps a mae hyn yn effeithio ar y cyfartaledd, sydd tua 2,000 Kbps. Mae hyn yn ofnadwy o isel ar gyfer cywasgiad MPEG-2, fel y gwelwch chi o gymhariaeth gyda’r sianeli eraill.
Felly yn ei leoliad newydd ar Freeview mae S4C Digidol yn sianel israddol a dwi ddim yn gweld fod gan S4C llawer o reolaeth yn y mater gan nad ydyn nhw bellach ar yr amblecs y wobrwyd iddynt gan Ofcom yn y lle cynta. Y cwestiwn yw – oes yna unrhyw un ar ôl yn y byd darlledu sy’n poeni am safonau technegol?
Gan Nic Dafis 27 Medi 2009 - 11:43 pm
Waw. Oes sôn am hyn o gwbl yn y cyfryngau? Dyma’r tro cynta i mi glywed amdano. Dw i ddim wedi gweld S4C ers 9/9/9 gan ein bod ni wedi colli’r rhan fwya o’n sianeli – angen newid cyfeiriad yr arial siwr o fod, ond dw i ddim wedi boddran mynd lan i’r atic erbyn hyn.
Gan Ian Cottrell 29 Medi 2009 - 3:15 pm
Ydy hwn yn wir am Sky neu jyst Freeview? Mae gen i Sky HD a theledu HD llawn felly wrth reswm mae unrhyw newid mewn safon ar sianeli SD yn amlygu ei hun (mewn ffordd negatif). Dwi newydd fod yn gwylio ail-ddarllediadau o Wedi 7 a Ffermio p’nawn ‘ma ac i fi, mae safon y llun YN edrych yn waeth nag oedd o. Ai jyst fi ydy yn MEDDWL hyn ar ol darllen dy flog neu ydy’r un peth felly yn wir am sfon y llun ar Sky? Gyda llaw, fel rhywun sy’n gweithio i gwmni teledu, dyn ni fel cwmni heb glywed unrhywbeth gan S4/C am hwn!
Gan Dafydd Tomos 29 Medi 2009 - 4:50 pm
Dim ond ar Freeview, er y bydd pwysau ar sianeli lloeren i wneud defnydd fwy ‘effeithiol’ o’r gofod cyn bo hir hefyd.
Dwi’n gwylio Freeview ar deledu plasma HD 37″, lle mae artefacts MPEG yn amlwg iawn. Mae rhai sianeli fel BBC One a Five yn edrych yn wych – y rhaglenni sy wedi ffilmio yn HD ond eu darlledu mewn SD bron cystal a HD ei hunan! (oce dim cweit os ti’n edrych yn fanwl).
Ond mae S4C nawr yn ymuno a Channel 4+1, ITV3 a BidTV. I fod yn deg mae e wedi gwella ychydig ers y 9fed o Fedi ond mae yna dal ddirywiad amlwg yn enwedig ar astons, credits a unrhyw graffeg arall.
Gan Rhys 4 Hydref 2009 - 2:25 pm
Mae hwn a dy gofnod ar gydraniad S4C yn hynod ddiddorol, diolch. Ai dy ffigurau di dy hun, neu rhai allanol, sydd gyda ti yn y graff?
Gyda llaw, i ateb dy gwestiwn Oes yna unrhyw un ar ôl yn y byd darlledu sy’n poeni am safonau technegol?, yr ateb, dybia i, yw ‘oes’. Y cwestiwn mawr yw ai ganddyn nhw mae’r gwir bwer bellach i wneud penderfyniadau ar faterion technegol…
Gan Dafydd Tomos 4 Hydref 2009 - 2:51 pm
Rhys: Ie, roedd fy nghwestiwn ychydig yn gellweirus. Mae yna gwestiwn arall “Oes yna unrhyw un ar ôl yn y byd datblygu gwefannau sy’n poeni am safonau techegol?” a’r ateb yw “Oes, ond mae’r pwysau gynyddol am ddatblygu pethau’n gyflymach am lai o arian yn ei wneud hi’n anodd”.
Fy ffigyrau i sydd yn y graff, wedi eu mesur o ffeiliau MPEG-2 ar fy PVR.