Ansawdd lluniau S4C yn dirywio

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol ‘Mux A’ i amlblecs ‘Mux 2’ sydd ar gyfer sianeli PSB. Mae’n rhaid cario Mux1/2 ar bob trosglwyddydd yn cynnwys y ‘relays’ llai, ond does dim rheidrwydd i wneud hynny ar gyfer yr amlblecs masnachol.

Mae’r newid i weld yn beth da felly, gan ei fod yn cynyddu cyrhaeddiad y sianel i wylwyr ym mannau anghysbell Cymru. Yn anffodus mae S4C nawr yn rhannu lle gyda holl sianeli ITV a Channel 4, a mae’n ymddangos fod ganddo llai o ofod nag o’r blaen.

Canlyniad hyn yw fod ansawdd y llun wedi dirywio yn amlwg, gyda llun llawer mwy ‘meddal’ a mwy o ‘blocio’ gyda sgîl-effeithiau cywasgiad MPEG-2 yn digwydd yn aml.

Mae ansawdd yr unig sianel Gymraeg nawr yn ddim gwell na rhai o’r sianeli siopa neu sianeli “+1”. Felly dwi’n gweld S4C yn cael ei drin fel sianel israddol ar draul sianeli gweddol di-bwynt sydd ar yr un amlblecs fel Channel 4+1 neu ITV2/3/4.

Fe wnes i gwyno am hyn i Wifren Gwylwyr S4C a fe ges i ymateb prydlon gan aelod o adran beirianneg S4C. Mae ganddyn nhw bryderon hefyd ynglŷn a ansawdd y llun a fe fyddant yn “medru man-diwnio yr MPEG encoding dros y misoedd nesaf”. Mae’n wir ei fod yn bosib gwneud tipyn o welliannau drwy ddefnyddio caledwedd amgodi newydd a tiwnio y proffil ar cyfer cywasgu y lluniau i MPEG-2.

Yn anffodus, mae hyn yn esiampl o nodweddiadol o sut mae’r diwydiant darlledu yn datblygu yn sgîl technolegau digidol – mae pwysau ar bawb i wasgu fwy a fwy o sianeli i’r un gofod ar draul ansawdd. Er fod ‘Mux 2’ ar gyfer sianeli ‘darlledu cyhoeddus’, sianeli masnachol ydyn nhw gyd sydd yn dibynnu ar hysbysebion – pob un heblaw am S4C wrth gwrs. Mae lle i ddadlau y dylai S4C fod ar amlblecs y BBC ond mae’n siwr fod rhesymau technegol/gwleidyddol dros beidio gwneud hynny.

Mi fydd S4C HD yn lansio mis Mawrth nesaf ar Freeview (unwaith i Cymru gyfan newid i ddigidol) a mi fydd hynny yn cynnig llun o ansawdd uchel iawn unwaith eto. Dwi’n edrych ymlaen at hynny, ond wrth gwrs ni fydd S4C HD ar gael i bawb yng Nghymru ar Freeview a fe fydd angen prynu cyfarpar newydd (eto) i’w wylio.

Dwi’n gobeithio y bydd rhyw ffordd o wella lluniau S4C yn ôl i’r ansawdd gwreiddiol a wnai drio rhoi enghreifftiau ar y blog cyn bo hir i ddangos y newid.

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.