Symud sianeli

Dwi’n parhau i sgrifennu am sefyllfa S4C ar Freeview (a pam lai, sneb arall yn gwneud) ond mae gen i ychydig fwy o wybodaeth nawr. Mae’r newid yn un technegol iawn a rhywbeth na fyddai rhan fwyaf o wylwyr yn sylwi arno efallai ond mae’n werth codi’r pwnc yr un fath.

Heddiw roedd angen i bawb ar draws gwledydd Prydain ail-diwnio eu offer Freeview. Pwrpas y symud oedd sicrhau fod y prif sianeli (yn ystyriaeth Ofcom) ar gael i bawb, a roedd hynny yn golygu naill ai amlblecs ‘Mux 1’ (sy’n llawn o sianeli’r BBC) neu ‘Mux 2’.

Fel rhan o hyn, roedd sianel Five yn symud i amlblecs Mux 2 (sef yr union yr un peth a wnaeth S4C ar y 9fed o Fedi). Mae ansawdd llun Five wedi dirywio yr un fath a S4C, a mae llawer mwy o gwyno am hynny fel y fyddech chi’n disgwyl. Yr ateb yw fod cydraniad (resolution) y darllediad wedi newid.

Y safon darlledu ar gyfer teledu digidol cyffredin ym Mhrydain yw PAL D1 sef 720×576 picsel mewn ffurf anamorffig (delwedd 16:9 sy’n cael ei recordio ar ffurf 4:3). Mae hyn yn cael ei ehangu ar y teledu yn ôl i’w faint llawn ar sgrîn lydan.

Am rhyw reswm mae’r lluniau ar Mux 2 yn cael eu darlledu gyda cydraniad o 544×576 picsel. Er fod hyn yn dderbyniol ar gyfer rhai sianeli mae’n debyg fod hyn yn erbyn safonau technegol Ofcom ar gyfer y prif sianeli cyhoeddus. Mae’r llun isod yn dangos y gwahaniaeth mewn maint y llun cyn ac ar ôl y newid, sy’n esbonio pam fod llawer llai o fanylder yn y llun presennol.

Newid cydraniad lluniau S4C

Ie, dwi wedi dewis Angharad Mair fel y llun esiampl er mwyn dangos un o ‘wynebau S4C’ yn cael ei gwasgu.

Nawr mae’n debyg y bydd y sefyllfa yn cywiro ei hun dros amser, efallai erbyn 2010, wrth i’r newid digidol barhau a bod ychydig fwy o ofod yn cael ei ryddhau. Gobeithio y bydd S4C a Five nôl i’w ansawdd llawn erbyn hynny ond mae’n rhywbeth fydd rhaid cadw golwg arno.

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.