Cysylltiadau cyflym?

Darllenais i stori yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd ‘100 gwaith cyflymach na band llydan’. Mae’n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad gwasg, fyddai wedi ei sgrifennu gan rhywun yn yr adran farchnata, am fod yr erthyglau ymhob papur reit debyg. Ychydig iawn o newyddiadurwyr sy’n trafferthu deall yr hyn mae nhw’n sgrifennu amdano, fel sy’n amlwg wrth ddarllen papurau y dyddiau yma neu gwefan newyddion y BBC er enghraifft.

Ychydig iawn o fanylion technegol pendant sydd yn yr erthygl. Fel ddwedodd Scotty, “ye cannae change the laws of physics”, felly sut mae’r ddyfais anhygoel yma’n gweithio? Ar ôl ychydig o gwglo fe ddes i ar draws disgrifiad byr ar wefan y Royal Society, a mae’r gwirionedd yn dechrau dod i’r amlwg.

“project will look to demonstrate” – dyw’r ddyfais ddim yn bodoli eto. “low cost, advanced optical modems” – mae’r dechnoleg yma ar gael yn barod, ond ar gyfer cysylltiadau o fewn rhwydweithiau sy’n rhedeg yn llwyr ar dechnoleg ffibr-optig; o fewn cwmnïau cyfathrebu mawr neu ganolfannau data. Mae’n bosib cael rhwydweithiau ffibr optig o un pen y wlad i’r llall – mae gan y cwmni (llawer mwy cyfoethog) sydd drws nesa i ni gysylltiad ffibr-optig 100Mb rhwng eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae defnyddio’r dechnoleg yn y cartref yn swnio’n ardderchog, ond nad yw hyn yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl? Mae pob cartref yn y wlad wedi eu cysylltu i’r gyfnewidfa drwy wifren gopr, felly ychydig iawn o ddefnydd yw modem optig i’r cartref os nad oes yw’r wifren yn cael ei newid am un ffibr-optig hefyd.

Mae nifer o wledydd yn datblygu gwasanaethau “ffibr i’r cartref” ar gyfer y rhai gyda pocedi dwfn iawn. Ym Mhrydain amcangyfrir y byddai hi’n costio o leia’ £15biliwn i newid rhwydwaith BT o gopr i ffibr. Yn y dinasoedd mawr, mi fydd y ‘farchnad’ yn cyflymu’r datblygiad yma gyda nifer o gwmnïau yn edrych ar ddatblygu rhwydweithiau o’r fath. Mae cwmni a ddechreuodd yng Nghymru – H20 yn gwneud hyn ar gyfer busnesau ond sylwch nad yw’n gwneud synnwyr iddyn nhw weithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.

O ran sefyllfa Cymru – ychydig iawn o gystadleuaeth sydd yma’n barod a felly BT yw’r unig gwmni mewn sefyllfa i ddarparu’r dechnoleg newydd. Fel gyda ADSL rhai blynyddoedd yn ôl ni fydd y cwmni yn buddsoddi heb ryw sicrwydd o adennill y gost. Dwi’n credu fyddwn ni’n parhau i weld storïau ffantasiol yn y wasg am rhai blynyddoedd i ddod.

Postiwyd y cofnod hwn yn Newyddion, Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

2 Responses to "Cysylltiadau cyflym?"