Darllenais i stori yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd ‘100 gwaith cyflymach na band llydan’. Mae’n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad gwasg, fyddai wedi ei sgrifennu gan rhywun yn yr adran farchnata, am fod yr erthyglau ymhob papur reit debyg. Ychydig iawn o newyddiadurwyr sy’n trafferthu deall yr hyn mae nhw’n sgrifennu amdano, fel sy’n amlwg wrth ddarllen papurau y dyddiau yma neu gwefan newyddion y BBC er enghraifft.
Ychydig iawn o fanylion technegol pendant sydd yn yr erthygl. Fel ddwedodd Scotty, “ye cannae change the laws of physics”, felly sut mae’r ddyfais anhygoel yma’n gweithio? Ar ôl ychydig o gwglo fe ddes i ar draws disgrifiad byr ar wefan y Royal Society, a mae’r gwirionedd yn dechrau dod i’r amlwg.
“project will look to demonstrate” – dyw’r ddyfais ddim yn bodoli eto. “low cost, advanced optical modems” – mae’r dechnoleg yma ar gael yn barod, ond ar gyfer cysylltiadau o fewn rhwydweithiau sy’n rhedeg yn llwyr ar dechnoleg ffibr-optig; o fewn cwmnïau cyfathrebu mawr neu ganolfannau data. Mae’n bosib cael rhwydweithiau ffibr optig o un pen y wlad i’r llall – mae gan y cwmni (llawer mwy cyfoethog) sydd drws nesa i ni gysylltiad ffibr-optig 100Mb rhwng eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae defnyddio’r dechnoleg yn y cartref yn swnio’n ardderchog, ond nad yw hyn yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl? Mae pob cartref yn y wlad wedi eu cysylltu i’r gyfnewidfa drwy wifren gopr, felly ychydig iawn o ddefnydd yw modem optig i’r cartref os nad oes yw’r wifren yn cael ei newid am un ffibr-optig hefyd.
Mae nifer o wledydd yn datblygu gwasanaethau “ffibr i’r cartref” ar gyfer y rhai gyda pocedi dwfn iawn. Ym Mhrydain amcangyfrir y byddai hi’n costio o leia’ £15biliwn i newid rhwydwaith BT o gopr i ffibr. Yn y dinasoedd mawr, mi fydd y ‘farchnad’ yn cyflymu’r datblygiad yma gyda nifer o gwmnïau yn edrych ar ddatblygu rhwydweithiau o’r fath. Mae cwmni a ddechreuodd yng Nghymru – H20 yn gwneud hyn ar gyfer busnesau ond sylwch nad yw’n gwneud synnwyr iddyn nhw weithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.
O ran sefyllfa Cymru – ychydig iawn o gystadleuaeth sydd yma’n barod a felly BT yw’r unig gwmni mewn sefyllfa i ddarparu’r dechnoleg newydd. Fel gyda ADSL rhai blynyddoedd yn ôl ni fydd y cwmni yn buddsoddi heb ryw sicrwydd o adennill y gost. Dwi’n credu fyddwn ni’n parhau i weld storïau ffantasiol yn y wasg am rhai blynyddoedd i ddod.
Gan Rhys 7 Mawrth 2008 - 10:35 am
Dwi’n amau fod academyddion o bob disgyblaeth yn fwyfwy ymwybodol dyddiau hyn o’r angen i ‘werthu’ eu hymchwil (er gwell, er gwaeth…)
Dyma’r datganiad gwreiddiol, rhag ofn dy fod ti wedi bod yn chwilio amdano.
Gan Huw Waters 16 Mawrth 2008 - 6:23 pm
Diddorol. Mae swyddfa neu cyn-swyddfa H2O ym Mharc Busnes Llanelwy, yn yr adeilad OpTIC Technium. Yr hyn maent yn ei wneud yw gosod ffibrau-optig lawr y draeniaid. Ma hyn yn arbed ar dynnu ffyrdd i fyny etc. yn helpu gyda chost ac anghyfleustra.
Peth arall nad yw pobol yn sylweddoli yw fod Dwr Cymru wedi gosod rhwydwaith o ffibrau optig ar hyd Cymru, sydd ddim yn cael eu defnyddio. Gwastraff pres, gan fod rhai ffibrau yn terfynnu mewn sied gwag yng nghanol cae!
Llun yma o dechneg H2O i’w weld yn y llun yma http://www.flickr.com/photos/jondoe_264/1229904879/