Fel wnes i grybwyll o’r blaen, mae Recordiau R-bennig wedi dod i ben, ond mae Johnny R am barhau ei anturiaethau creadigol mewn cyfrwng arall – ffilmiau. Yn ôl y wefan, y bwriad yw cynhyrchu ffilm o’r enw “Pram Ddim”. Efallai fod hyn yn wir, neu efallai ei fod yn arsylwad dychanol ar y tueddiad sydd gan cyn-berchnogion label neu gerddorion i fynd i’r diwydiant ffilmiau/teledu sydd wrth gwrs yn ddiwydiant llawer mwy rhywiol (a sdim angen slafio yn y stiwdio ar ran bandiau amatur anniolchgar).
Ta waeth, yn arbennig ar gyfer darllenwyr Daflog rwy’n cyflwyno arbrawf cynta R-bennig yn y maes, cafodd ei ysbrydoli gan rhywbeth wnes i jyst wneud lan, sef cyfarfod cyffredinol y ‘John Grindell Appreciation Society’ lle mae pawb yn dod i ddawnsio “ar y Sgwâr” (Mount Stuart) mewn wigs melyn llachar. Dyma’r fideo:
Gan Nwdls 4 Awst 2006 - 10:24 am
Diolch am hwn, difyr. Edrych mlaen i weld “Pram Ddim” yn slot ffilm dolig S4C!
Ti am fod yn ecstra Daf?
Gai ymuno a’r John Grindell Appreciation Society?
Gan Huw Waters 4 Awst 2006 - 1:54 pm
Dwi’m yn gallu ei weld. Dwi’n cael y neges “You require Javascript and Flash to view this movie” er bod pob dim yn enabled a dwi efo’r plugins diweddaraf.
Gan dafydd 4 Awst 2006 - 2:42 pm
A sori.. problem gyda IE yn unig.. wedi drwsio nawr.
Gan Johnny R 4 Awst 2006 - 3:36 pm
Mam bach, diolch am gosod y peth! Nid sgam yw fy cwmni (bach) newydd, debyg fod yr enw fydd ”FFILM FFWOAR” (Nid ‘Film Four’ boom boom) a mae Pram Ddim yn cael ei saethu yn y man. Dechrau gyda ‘shorts’ ar gyfer Channel 5, basically sexy delwedd..Rhys Ifans need not apply, rwi’n bwriadau ‘rhyddhau’ y shorts ar ffyrff DVD fel cyfres casgladwy bach, lets face it if i wrote to S4C am comisiwns bach they’ll be binned, mae E4 hefyd wei ddangos diddordeb (yn sdwff Gymraeg!!)..so hw knows..edrych m’laen am ‘saethu’ Huw Waters..ffilmio o gwmpas Bae Colwyn yn y hydref if he can be arsed..nid ffi ecwity eto..ond hei ya gorra dechrau rwle! Got some dead hot babes (Nid fel ar S4C/Radio Meinir Gwilym) and even sexier gay hyncs Daf!..FFILM FFWOAR..FFFFFFFFWOARRRRRRRR
Johnny R