Mae BT wedi lansio fersiwn Gymraeg o’i gwasanaeth ‘llyfr ffôn’ ar y we.
Doedd fy chwiliad cynta arno ddim yn rhyw lwyddiannus iawn:
Mae’n rhwydd lansio gwefannau gyda wyneb Cymraeg – peth anoddach yw lansio gwasanaethau sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Alun Pugh mae BT “yn enghraifft dda o gwmni sy’n dangos y ffordd yn nhermau’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig yn y ddwy iaith”. Yn anffodus Alun, dilyn mae BT wedi gwneud erioed, nid arwain.
Gan Nic 9 Ebrill 2006 - 6:46 pm
Chwilia am “tafarn” yn “caerdydd” a ti’n cael lot o ganlyniadau. I gyd yn ffermydd, yn anffodus.