Yfory fe fydd nifer o gwangos yng Nghymru yn dod i ben a felly fe fydd eu gwefannau hefyd yn cau lawr a dod yn rhan o wefan fonolithig y Cynulliad. Yn y tymor byr mi fydd hyn yn golygu y bydd y gwefannau defnyddiol yma yn cael eu llyncu o fewn gwefan anghyfeillgar ac annealladwy cymru.gov.uk.
Ar y cyfan mae gwefannau y cwangos wedi cael eu dylunio a’u cynnal gan gwmnïau bach sydd a’r sgiliau addas ar gyfer creu gwefannau hawdd eu defnyddio, hygyrch a mewn ffordd hynod gost-effeithiol. Tra fod gwefan y Cynulliad yn gymysgedd o waith dylunio gan gwmni allanol wedi ei gyfuno gyda system rheoli cynnwys mewnol – fel rhan o gontract drud iawn gyda un o’r cwmnïau TG mawr.
Ar hyn o bryd mae contract gwerth o leia £600,000 yn cael ei hysbysebu ar gyfer gwefan newydd y Cynulliad fydd yn ymgorffori yr holl adrannau newydd yma, felly gobeithio fyddan nhw’n gwneud y dewis iawn i greu gwefan cynhwysfawr newydd fydd yn hawdd i’w ddefnyddio, i’w chwilio a’i lywio. Mae rhai o’r cwangos wedi treulio blynyddoedd yn creu ei gwefannau eu hunain, casglu gwybodaeth at ei gilydd a dysgu sut i gyflwyno gwybodaeth yn y ffordd mwya effeithiol ar gyfer ei arbenigedd nhw. Gobeithio na fydd y profiad yma yn cael ei golli wrth ymuno a llywodraeth y Cynulliad.
Ar Ebrill 1af, mi fydd y gwefannau canlynol yn diflannu neu ei ail-gyfeirio i dudalennau o fewn cymru.gov.uk:
- WDA – mae’n debyg na fydd holl gynnwys y wefan yma yn gallu cael ei drosglwyddo i’r wefan arall, felly mi fydd cynnwys y wefan dal ar gael, drwy gyfeiriad arall.
- Proffesiynau Iechyd Cymru – mae esboniad mewn Cymraeg chwithig yno’n barod.
- ELWa – mi fydd hwn yn ail-gyfeirio i dudalennau o fewn wales.gov.uk
- ACCAC – mi fydd hwn yn ail-gyfeirio i adran Addysg a Sgiliau o fewn wales.gov.uk ond mi fydd yr holl gynnwys yn yr hen wefan ar gael am beth amser eto
- Bwrdd Croeso Cymru – mi fydd hwn yn cyfeirio at wales.gov.uk (Wps mae nhw wedi gwneud yn barod cyn hanner nôs a dyw’r wefan ‘newydd.cymru.gov.uk’ ddim ar gael i’r byd eto)
Mae’n bosib fydd y cyfeiriad ‘newydd.cymru.gov.uk’ yn dod yn fyw am hanner nos yn union ond dwi’n amau rhywsut. Gewn ni weld..
Gan Nic 31 Mawrth 2006 - 11:20 pm
Na, dim byd.
Gan Nic 31 Mawrth 2006 - 11:20 pm
Hyrm.
Mae’n 12.20 ble dw i’n eistedd. 😉
Gan dafydd 1 Ebrill 2006 - 12:23 am
Dwi’n meddwl dyle’r amser fod yn iawn nawr ar y cofnod hwn…
Gan Huw Waters 2 Ebrill 2006 - 12:02 pm
Dwi’n meddwl na S8080 o Abertawe sydd efo cytundeb datblygu gwefan y Cynulliad, neu arfer a; ydi Imaginet yn edrych am gleient newydd?